Hyrwyddo Ymchwil ym maes Da Byw Cynaliadwy: IBERS ac UNALM yn Ffurfio Partneriaethau Byd-eang
Tîm IBERS gyda’r Athro Carlos Gomez (yn y crys chwys goch) a'r Athro Javier Ñaupari (siaced las) o UNALM, ynghyd â Robert o Barc Cenedlaethol Huascarán.
27 Ionawr 2025
Canolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran IBERS yn Cryfhau Cysylltiadau Ymchwil â Phrifysgol Amaethyddol Flaenllaw Periw
Yn ddiweddar, ymwelodd staff o Ganolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran IBERS ag Universidad Nacional Agraria La Molina (UNALM), un o brif sefydliadau addysg uwch Periw. Treuliodd y tîm, sy'n cynnwys yr Athro Mariecia Fraser, Iolo Davies, ac Eirian Richards, ynghyd â'r Athro Jon Moorby o gampws Gogerddan IBERS, wythnos yn meithrin cyswllt â gwyddonwyr ym maes anifeiliaid a maestiroedd o UNALM a sefydliadau partner i drafod cydweithrediadau ymchwil cyfredol ac yn y dyfodol.
Roedd yr ymweliad, a ariannwyd gan ‘Gronfa Ymchwil i Heriau Byd-eang’ Ymchwil ac Arloesi y DU (UKRI), yn canolbwyntio ar dri maes allweddol ar gyfer datblygu cydweithredol:
- Meincnodi perfformiad da byw ac allyriadau nwyon tŷ gwydr.
- Gwella glaswelltiroedd yn gynaliadwy trwy ailhadu.
- Mabwysiadu technolegau newydd ar gyfer gwneud penderfyniadau rheoli ar sail data.
Nodwyd y blaenoriaethau hyn yn gyntaf yn ystod gweithdy yn 2019 dan arweiniad yr Athro Fraser, a wnaeth ddwyn ynghyd grŵp o IBERS a rhanddeiliaid o bob rhan o ranbarth yr Andes, gan gynnwys Bolifia ac Ecwador.
Systemau da byw amrywiol a chyfleoedd ymchwil
Mae cynhyrchu da byw ym Mheriw yn cwmpasu ystod eang o rywogaethau. Mae prif gampws UNALM yn Lima yn gartref i gyfleusterau ymchwil ac addysgu ar gyfer defaid, gwartheg, moch, dofednod, geifr, alpacaod, moch cwta, a chwningod. Treuliwyd hanner cyntaf yr ymweliad ar y campws hwn, lle bu'r tîm yn adolygu prosiectau ymchwil sy’n mynd rhagddynt ac yn nodi cyfleoedd posibl ar gyfer cydweithio.
Mae’r cysylltiadau ymchwil rhwng Pwllpeiran ac UNALM wedi canolbwyntio ar systemau cynhyrchu alpacaod a defaid. Yn draddodiadol, caiff defaid yr Andes eu bridio ar gyfer gwlân yn bennaf; fodd bynnag, mae’r gostyngiad mewn prisiau gwlân wedi symud ffocws yr ymchwil tuag at wella ffrwythlondeb mamogiaid, cyfraddau goroesi ymhlith ŵyn, defnyddio maetholion yn effeithlon, a pherfformiad cyffredinol.
Edrych ar Systemau Ffermio ar Dir Uchel
Yn ystod ail hanner yr ymweliad, teithiodd y grŵp i ymyl Parc Cenedlaethol Huascarán, lle buont yn edrych ar systemau ffermio ar dir uchel ac yn cwrdd â gwyddonwyr a cheidwaid o'r Sefydliad Ymchwil Mynydd. Mae'r porfeydd yn y rhanbarthau hyn yn aml yn wael o ran maeth, ac mae hynny’n creu heriau sylweddol i iechyd da byw a chynhyrchiant. Fodd bynnag, mae potensial sylweddol i wella ansawdd porthiant, a allai, yn ei dro, wella iechyd a lles da byw. Nododd y tîm gyfleoedd i gyflawni hyn drwy gyflwyno glaswellt a chodlysiau a ddewiswyd yn ofalus i diroedd caeedig a reolir, er y bydd goresgyn heriau megis adnoddau ac offer cyfyngedig yn hanfodol.
Caiff alpacaod, sy’n ffynhonnell hanfodol o brotein ac incwm, eu magu gan gymunedau sy'n byw ar dir uchel ym Mheriw, yn aml yn uwch na 4,000m. Ystyrir bod yr uchderau hyn yn anaddas ar gyfer defaid. Mae gan gamelidau megis alpacaod system dreulio â thair siambr, sy'n wahanol i stumogau pedair siambr anifeiliaid cnoi cil megis defaid. Mae ymchwilwyr Pwllpeiran yn bwriadu cydweithio â staff a myfyrwyr UNALM i gymharu effeithlonrwydd treulio ac allyriadau methan alpacaod a defaid, yn enwedig pan fyddant yn cael eu bwydo â deiet uchel ei ffeibr sy'n nodweddiadol o laswelltiroedd yr Andes. Nod yr ymchwil yw gwella'r ddealltwriaeth ynglŷn â gofynion maethol alpacaod, a thrwy hynny leihau’r cyfraddau marwolaethau uchel ymhlith alpacaod newydd-anedig mewn rhanbarthau anghysbell.
Tuag at ddyfodol cynaliadwy
Nod y cydweithrediad rhwng IBERS ac UNALM yw datblygu atebion cynaliadwy a gwydn i ffermwyr mewn rhanbarthau ucheldirol ledled y byd, gan gynnwys yr Andes ac ucheldiroedd y DU. Trwy ymchwil arloesol a phartneriaeth barhaus, y nod yw gwella iechyd a chynhyrchiant da byw wrth gefnogi bywoliaeth cymunedau gwledig.