Gellir troi crystiau bara dros ben yn fwydydd newydd – ymchwil
![Dr David Bryant](/cy/ibers/news/news-article/Dr-David-Bryant-6.jpg)
Dr David Bryant
13 Ionawr 2025
Os ydych yn pryderu am grystiau eich bara yn mynd yn wastraff, yna efallai mai ymchwil newydd sy’n addo ei droi’n fwydydd newydd yw’r ateb.
Mewn papur a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn ‘NPJ Science of Food’, mae academyddion o Brifysgol Aberystwyth wedi dangos bod modd eplesu gwastraff bara’n fwydydd maethlon iawn.
Mae gwenith yn un o'r cnydau sy'n cael ei fwyta fwyaf ledled y byd, gan gyfrannu at 20% o'r calorïau a'r proteinau mewn dietau pobl.
Mae'n gynhwysyn allweddol ar gyfer llawer o brif fwydydd, fel bara, cacennau, bisgedi, cwcis a chracers.
Mae gwastraff pobi, yn enwedig o fara, yn bryder mawr byd-eang. Ar hyn o bryd mae tua 10% o'r 185 miliwn tunnell o fara sy'n cael ei bobi bob blwyddyn yn cael ei wastraffu, yn bennaf mewn archfarchnadoedd a phobyddion masnachol.
Er bod y rhan fwyaf o'r gwarged hwn yn ddiogel i'w fwyta, gyda rhywfaint yn cael ei ddosbarthu drwy elusennau, ni ellir ei werthu'n fwy cyffredinol
Yr astudiaeth newydd yw'r tro cyntaf i academyddion ddangos y gall glaswellt a ddefnyddir yn draddodiadol ar gyfer cadw da byw eplesu'n llwyddiannus gyda bara a gan ffyngau i wneud proteinau amgen.
Mae’r broses newydd yn cyfuno bara dros ben gyda sudd o laswellt wedi'i wasgu sy'n llawn maetholion a phrotein ar gyfer tyfiant ffwngaidd.
Gallai'r protein amgen y gellir ei gynhyrchu ohono ymddangos ar blatiau miliynau o bobl, gan gynnwys mewn bara cyfnerthedig, pasteiod porc neu selsig.
Meddai Dr David Bryant o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Mae hwn yn ddatblygiad arwyddocaol iawn a fydd, gobeithio, yn mynd i’r afael â’r broblem fyd-eang gynyddol o wastraff bwyd. Mae'r rhan fwyaf ohonom yn gwybod yn iawn faint o broblem yw gwastraff bara - o'r tost sy'n cael ei daflu amser brecwast neu ein brechdanau heb eu bwyta. Ond nid dyna’r holl broblem – mae llawer yn cael ei wastraffu’n fasnachol ym maes gweithgynhyrchu a manwerthu hefyd.
“Mae’r ymchwil hwn yn rhoi ffordd i ni fynd i’r afael â’r broblem honno drwy eplesu. Y defnydd o laswellt sy'n gwneud y canfyddiadau hyn yn rhai sy’n torri tir newydd. Gwychder y dull hwn yw y gall ddefnyddio planhigyn bob dydd i droi gwastraff yn fathau newydd o fwyd ar gyfer poblogaeth gynyddol y byd.”
Mae'r math o ffyngau a ddefnyddir yn eplesiad newydd y gwyddonwyr eisoes yn cael ei ddefnyddio'n helaeth i gynhyrchu tempeh, sy’n cael ei wneud o soya wedi ei goginio a’i eplesu ac yn cael ei ddefnyddio yn lle cig, a’i fwyta'n eang mewn rhannau o Asia.
Gan ddefnyddio’r cyfleusterau bioburo ar raddfa beilot yn ArloesiAber ar gampws Gogerddan Prifysgol Aberystwyth, mae’r datblygiad gwyddonol arloesol hwn yn manteisio ar eplesu cyflwr solet, sy’n fwy ecogyfeillgar ac yn cynhyrchu llai o ddŵr gwastraff na dulliau eraill.
Ychwanegodd llefarydd o’r cwmni bwyd Samworth Brothers:
“Mae Samworth Brothers yn fusnes bwyd sydd â dylanwad sylweddol – mae ein gweithgareddau’n effeithio ar yr amgylchedd a newid hinsawdd, maeth, cyflogaeth, cadwyni cyflenwi a’r cymunedau rydym ni’n gweithredu ynddyn nhw. Rydym ni’n benderfynol bod ein dylanwad er lles. Mae cefnogi’r prosiect hwn yn enghraifft wych o’r hyn y gallwn ei wneud yn ogystal â’n gweithgareddau ailddosbarthu bwyd i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio’r crystiau bara.”
Ariennir y prosiect ymchwil pedair blynedd gan Gyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol (BBSRC) yr UKRI.
Dywedodd yr Athro Anne Ferguson-Smith, Cadeirydd Gweithredol y BBSRC:
"Mae mabwysiadu dulliau arloesol fel hyn nid yn unig yn helpu i frwydro yn erbyn gwastraff bwyd ond hefyd yn arloesi mewn ffyrdd newydd o gynnal ein poblogaeth gynyddol gyda dewisiadau maethlon eraill. Mae'r ymchwil diweddaraf hwn gan IBERS, un o sefydliadau ymchwil a gefnogir yn strategol gan BBSRC, yn crynhoi'r math o wyddoniaeth drawsnewidiol y mae BBSRC yn buddsoddi ynddi i feithrin systemau bwyd cynaliadwy a gwydn ledled y Deyrnas Gyfunol a ledled y byd. Mae'r potensial o droi gwastraff bob dydd yn adnoddau bwyd gwerthfawr yn gyfle y mae'n rhaid i ni fanteisio arno os ydym am sicrhau ein cyflenwad bwyd byd-eang yn llwyddiannus nawr ac yn y dyfodol.”
Wrth i'r astudiaeth barhau, bydd ymchwilwyr yn ystyried sut y gallant newid y blasau a gwella blas y proteinau amgen a gynhyrchir gan yr eplesiad.