SIOE DEITHIOL ARWEINWYR DYFODOL TYNNU NWYON TŶ GWYDR LLWYDDIANNUS YM MHRIFYSGOL ABERYSTWYTH

04 Hydref 2024

Yn ddiweddar, cynhaliodd Prifysgol Aberystwyth Rhwydwaith tynnu Nwyon Tŷ Gwydr (GGR) i Arweinwyr y Dyfodol, fel rhan o Sioe Deithiol GGR.   Daeth y digwyddiad deinamig hwn â 35 o ymchwilwyr gyrfa gynnar (ECRs) yngŷd â gweithwyr proffesiynol eraill ar ddechrau eu gyrfa sy’n gweithio mewn busnesau newydd, polisi a llywodraethu arloesol, cyrff gosod safon, a mannau eraill ar draws gofod GGR.

Rhoddodd y digwyddiad brofiad ymarferol i gyfranogwyr o ddulliau seiliedig ar y tir ar gyfer tynnu nwyon tŷ gwydr, yn enwedig archwilio’r heriau sy’n gysylltiedig â monitro, adrodd a gwirio (MRV).

Roedd y digwyddiad 3 diwrnod yn cynnwys cyflwyniadau craff gan arbenigwyr blaenllaw ym maes ymchwil a gweithredu GGR, ynghŷd â theithiau tywys o’r “safleoedd arddangos” lleol, gan gynnwys cyfleusterau Biomass Connect yn Frongoch a’r lleiniau mawn GGR yng Nghanolfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran.  Mae’r safleoedd hyn yn cyfrannu at gynnydd tystiolaeth sylfaen yn y DU ar gyfer dulliau GGR gan gynnwys bio-ynni gyda sut i ddal a storio carbon (BECCS), biochar, ac adfer mawndir.

Roedd yr agenda yn cynnwys croeso gan yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS, ac yna anerchiad cyweirnod gan Dr Jo House, a chyfres o gyflwyniadau a oedd yn ymdrin â’r sbectrwm llawn o brosesau MRV – o gasglu data o’r maes i ardystio credyd carbon.  Dangosodd yr ECRs eu prosiectau trwy ymgysylltu â sesiynau “dangos-a-dweud”, gan dynnu sylw at eu gwaith ar GGR a’r heriau ymarferol wrth fonitro allyriadau nwyon tŷ gwydr, yn enwedig N20.

Canmolodd cyfranogwyr y digwyddiad am ei gyfuniad o sesiynau addysgiadol, dysgu ymarferol, a gweithgareddau cymdeithasol.  Yn gryno, darparodd y sioe deithiol gyfleoedd amhrisiadwy ar gyfer rhwydweithio, cydweithio a thrafod, gan help i nodi bylchau gwybodaeth newydd a meithrin gwaith cydweithredol yn y dyfodol i ddatblygu strategaethau GGR.  Tanlinellodd y digwyddiad bwysigrwydd ymdrechion rhyngddisgyblaethol a dangosodd sut y gall ECRs ac arbenigwyr gweithio ar y cyd i yrru atebion hinsawdd cynaliadwy.

Mae llawer o’r safleoedd yr ymwelwyd â nhw yn ystod y digwyddiad yn cael eu ariannu gan UKRI, ac maent wedi buddsoddi £30 miliwn yn ymchwilio i hyfywedd pum dull GGR: gwella hindreulio creigiau, cynnal mannau coediog, cnydau biomas lluosflwydd, ffurfiant mawn, a biochar.

Trwy ddigwyddiadau fel y rhain, mae’r FLN yn datblygu cymuned gynyddol o arweinwyr y dyfodol sydd â sgiliau a gwybodaeh ryngddisgyblaethol, ymwybyddiaeth eang o’r heriau sy’n wnebu GGR y tu hwnt i’w roliau o ddydd i ddydd, yn ogystal â pherthnasoedd rhyngbersonol cryf sy’n sail ar gyfer cydweithredu parhaus.

Lluniau drwy garedigrwydd amdani.co