Cricsyn yn eich browni? Profi blas bwyd o bryfed
Pryfed yn cael eu magu ym Mhrifysgol Aberystwyth
02 Awst 2024
Mae gwyddonwyr o Gymru yn profi sut mae pobl yn ymateb i fwyta bwydydd ⠰hryfed ynddyn nhw fel rhan o ymchwil i brotein gwyrddach.
Mae pryfed yn rhan gyffredin o ddiet bob dydd pobl mewn gwledydd ar draws y byd, megis Mecsico, Tsiena a Ghana.
Maen nhw’n cynnig ffynhonnell protein fwy amgylcheddol-gyfeillgar na llawer o fwydydd eraill, a gallen nhw gynorthwyo bwydo poblogaeth gynyddol y byd.
Dengys ymchwil fod tua 30% o gwsmeriaid yr Undeb Ewropeaidd yn fodlon bwyta bwyd a wnaed o bryfed.
Wedi’i ariannu gan Hyb Ymchwil Dyfodol Gwledig Prifysgol Aberystwyth, nod yr astudiaeth ddiweddaraf yw profi pa mor dderbyniol yw bwydydd o bryfed i’r cyhoedd.
Mae’r academyddion yn defnyddio bythau synhwyro arbenigol ar gampws ArloesiAber y Brifysgol ar gyfer profi a gwella bwydydd a’u cynnwys maethol.
Edrychodd y sesiynau blasu diweddaraf ar ymateb pobl i fwyta brownis siocled gyda, a heb flawd criced ynddyn nhw.
Dywedodd Yr Athro Alison Kingston-Smith, o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth:
“Gyda phoblogaeth sy’n cynyddu, mae angen rhagor o ffynonellau bwyd cynaliadwy ar y byd. Gallai pryfed fod yn un o’r rheina. Mae ein profion diweddaraf yn ceisio profi ansawdd, ymwybyddiaeth a pharodrwydd y cyhoedd i dderbyn brownis sydd wedi cael eu pobi ⠢lawd criced – ydy ni’n gallu blasu'r gwahaniaeth mewn gwirionedd?
“Mae hwn yn bwysig achos gallai ychwanegu blawd wedi’i seilio ar bryfed ddod ⠢uddion sylweddol - disodli protein llai cynaliadwy sy’n cael ei fewnforio, cynnig incwm newydd i ffermwyr a gwella iechyd pobl.”
Ychwanegodd yr Athro Kingston-Smith:
“Mae pryfed yn cynnig cyfle i amaethyddiaeth a’r sector bwyd i arallgyfeirio er mwyn cael mynediad at farchnadoedd newydd. Ac mae’r ymchwil hwn yn gweddu’n dda gyda Chanolfan Bwyd y Dyfodol y Brifysgol ar ein Campws ArloesiAber. Does dim amheuaeth bod protein pryfed yn derbyn sylw cynyddol yn y sector bwyd, a bydd ein hymchwilwyr yn rhan o’r datblygiadau cyffrous hynny.”
Mae ArloesiAber yn un o bum campws ymchwil ac arloesi sydd wedi’i ariannu gan Gyngor Ymchwil y Gwyddorau Biolegol a Biotechnoleg y UKRI (BBSRC) ac wedi’i leoli ar gampws Gogerddan Phrifysgol Aberystwyth sy’n safle bridio cnydau hanesyddol. Mae’n gweithio gyda chwmn o bob maint i hybu datblygiadau arloesol ym meysydd newid hinsawdd a diogelwch bwyd, gan ddod ag arbenigedd academaidd a diwydiant ynghyd.