Dadl Plannu Coed ar faes y Sioe Fawr

IBERS

IBERS

15 Gorffennaf 2024

Bydd arbenigwyr amaethyddol a chefn gwlad yn dod ynghyd i drafod plannu coed ar faes y Sioe Fawr. 

Daw’r drafodaeth wrth i Lywodraeth Cymru barhau i drafod manylion ei Chynllun Ffermio Cynaliadwy a gaiff ei gyflwyno o 2026 ymlaen.

Y siaradwyr yn y digwyddiad ym Mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Llun y Sioe fydd Dirprwy Lywydd NFU Cymru Abi Reader, Teleri Fielden o Undeb Amaethwyr Cymru, Arfon Williams o RSPB Cymru a Chyfarwyddwr Ymddiriedolaethau Natur Cymru Rachel Sharp.

Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth, a fydd yn cadeirio’r drafodaeth:

“Mae yna ddadl bwysig i’w chael am rôl plannu coed yn ein defnydd o dir yma yng Nghymru. Gobeithio bydd pobl sydd â diddordeb yn y trafodaethau pwysig hyn yn dod i glywed y gwahanol safbwyntiau. Rwy’n falch ein bod ni’n gallu hwyluso’r drafodaeth rhwng mudiadau sydd i gyd â rhan fawr i’w chwarae yn y modd y bydd tir yn cael ei ddefnyddio yn y dyfodol, a sut rydyn ni’n cael y cydbwysedd yn iawn.

“Mae consensws clir ar draws ein cymdeithas am bwysigrwydd cyrraedd targedau sero net, ac mae gan ymchwil ran bwysig i chwarae yn yr ymdrechion hyn. Un enghraifft o hyn yw’r prosiect Cyswllt Biomas rydym yn rhan bwysig ohono ac sy’n cael ei gynnal ar safleoedd ar draws y Deyrnas Gyfunol, gan gynnwys Aberystwyth. Mae potensial y cnydau hyn, megis helyg, poplar a miscanthus, yn un elfen o’r ddadl gyfredol sy’n haeddu mwy o sylw. Maent yn cynnig nifer o fanteision gwahanol, megis gwella bioamrywiaeth, lleihau perygl llifogydd, gwella ansawdd dŵr, cynyddu atafaeliad carbon yn y pridd a gwella iechyd y pridd. Ar yr un pryd, mae eu tyfu a’u cynaeafu yn cynnig ffynhonnell incwm rheolaidd ac ychwanegol i amaethwyr. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at  drafodaeth adeiladol gyda nifer o randdeiliaid pwysig yn y Sioe Fawr felly.”

Cynhelir y ddadl am 3pm ar ddydd Llun 22 Gorffennaf ym Mhafiliwn Prifysgol Aberystwyth ar faes y Sioe Fawr.