Dadleuon enwau mawr yn nigwyddiad glaswellt a thail y Gymdeithas Amaethyddol

Fferm Trawsgoed

Fferm Trawsgoed

22 Mai 2024

Bydd enwau mawr o fyd amaeth yn rhan o drafodaethau yn nigwyddiad Glaswellt a Thail Cynaliadwy blynyddol Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar fferm Trawsgoed yng Ngheredigion yr wythnos nesaf (dydd Iau 30 Mai).

Ymhlith y siaradwyr y mae Aelod Seneddol Ceredigion Ben Lake, Llywydd NFU Cymru Aled Jones a Llywydd Undeb Amaethwyr Cymru Ian Rickman.

Yn ogystal â seminar gwleidyddol, bydd trafodaethau am ddyfodol cynhyrchu bwyd, y genhedlaeth nesaf a gwyddoniaeth gynaliadwy.

Mi fydd hefyd arddangosiadau gan adrannau academaidd o Brifysgol Aberystwyth, gan gynnwys yr Ysgol Gwyddor Filfeddydol, IBERS ac Adran y Gwyddorau Bywyd. 

Mae’r digwyddiad yn rhan o flwyddyn Ceredigion fel sir nawdd y gymdeithas. Dywedodd Wyn Evans, Cymrawd y Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol a Chadeirydd y pwyllgor trefnu:

“Rydyn ni’n edrych ymlaen at groesawu pawb i Drawsgoed i’r prif arddangosiad gwneud silwair yn y DU ar gyfer 2024.

“Ochr yn ochr ag arddangosiadau silwair gan gynhyrchwyr peiriannau blaenllaw, bydd gennym arddangosiadau taenu tail, teithiau fferm, seminarau diwydiant ac ymchwil, stondinau masnach dan do ac awyr agored, ac arddangosfa beiriannau glasurol. Bydd hefyd unedau arlwyo, bar trwyddedig, ac adloniant gyda'r nos ar y safle. Rydyn ni’n hynod o lwcus i fedru cynnig dwy daith fferm wahanol i chi yn ystod y digwyddiad yn ogystal.

“Mae'r pwyllgor yn hynod ddiolchgar i DeLaval, Germinal, a'u noddwyr amrywiol eraill am wneud y digwyddiad hwn yn bosibl. Dymuna’r Pwyllgor hefyd ddiolch yn fawr iawn i Brifysgol Aberystwyth am gael cynnal y digwyddiad yma yn Nghrawsgoed.”

Mae fferm 436 hectar Trawsgoed yn cynnwys tir gwastad ar waelod Dyffryn Ystwyth, tua 60 metr uwchlaw lefel y môr sy’n codi i dir pori tua 280 metr uwchlaw lefel y môr. Mae ganddi hefyd 100 hectar o goetiroedd a reolir yn cynnwys coed brodorol a chonifferau.

Gyda 150 acer wedi’i neilltuo ar gyfer peiriannau arddangos, bydd y digwyddiad yn rhoi cyfle i ffermwyr glaswelltir weld y peiriannau gwneud silwair diweddaraf ar waith. Bydd hefyd yn cynnwys arddangosiadau o wasgaru slyri a thail buarth yn effeithlon ac yn effeithiol.

Ychwanegodd yr Athro Jon Moorby, Cadeirydd Gwyddor Da Byw a Chyfarwyddwr Systemau Ffermio Cynaliadwy ym Mhrifysgol Aberystwyth:

“Mae’n bleser o’r mwyaf croesawu digwyddiad mor arwyddocaol yn y calendr ffermio yma. Mae arwyddocâd y digwyddiad yn y calendr amaethyddol yn arwydd o’r pwysigrwydd y mae ffermwyr Cymru yn ei roi ar gynhyrchu a chynaeafu porthiant cynaliadwy, o ansawdd uchel ac wedi’i dyfu gartref.

“Fel prifysgol, rydyn ni’n falch o gael ein gydnabod yn rhyngwladol am ein hymchwil amaeth - ein rhaglenni bridio planhigion, yn ogystal â’n harbenigedd ymchwil mewn gwyddor anifeiliaid a chnydau.”

Yn ogystal â'r arddangosiadau peiriannau, bydd y digwyddiad yn cynnwys lleiniau yn dangos gwahanol fathau o laswellt, teithiau fferm, stondinau masnach a seminarau technegol a chyfle i gwrdd ag alpacaod Prifysgol Aberystwyth.

Bydd unedau arlwyo a bar trwyddedig yno, gydag adloniant gyda'r nos yn ogystal.

Mae tocynnau a rhagor o wybodaeth ar gael o wefan Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru: https://cafc.cymru/digwyddiadglaswelltir/