Myfyriwr o Aber yn dod i’r brig yng Ngwobrau STEM y Telegraph 2019
Eleanor Wilson (yn y canol), myfyrwraig trydedd flwyddyn MBiol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth, yn derbyn ei gwobr o £25,000 fel prif enillydd Gwobrau STEM y Telegraph 2019.
25 Mehefin 2019
Mae myfyrwraig biocemeg o Aberystwyth wedi ennill y brif wobr yng Ngwobrau STEM y Telegraph 2019 am syniad radical ar gyfer prawf symudol newydd ar gyfer y diciâu mewn pobl.
Cafodd Eleanor Wilson y syniad o ddefnyddio dull golygu genynnau CRISPR i adnabod TB mewn pobl yn ystod trydedd flwyddyn ei chwrs gradd MBiol yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Roedd dros 10,000 wedi ymgeisio am y wobr eleni, gydag Eleanor yn dod i’r brig yn gyntaf yn y categori Gofal Iechyd ym mis Ebrill 2019.
Fis yn ddiweddarach, cyhoeddwyd mewn seremoni arbennig yn Llundain mai hi oedd y prif enillydd ar draws pob un o bum categori Gwobrau STEM y Telegraph.
Mae wedi ennill gwobr ariannol o £25,000 yn ogystal â lleoliad gwaith pwrpasol gydag un o gwmnioedd iechyd mwya’r byd GSK.
Wrth siarad am ei chais, dywedodd Eleanor: “Yn fy marn i, mae gan ddull golygu genynnau CRISPR botensial aruthrol ond ar hyn o bryd, rydym yn adnabod afiechyd mewn ffordd debyg iawn i’r hyn a wnaed yn yr 20fed ganrif sef yn bennaf drwy edrych ar symptomau.”
Mae ei hateb hi yn cynnig dyfais symudol sy’n defnyddio technoleg CRISPR ac sy’n cynhyrchu canlyniadau gweledol, tebyg i brawf beichiogrwydd.
“Nid oes angen staff labordy cymwys na chyfleusterau labordy i weinyddu’r prawf. Mae modd ei gludo’n hwylus ac mae’n gymharol rhad,” meddai Eleanor. “Ar gyfer ardaloedd gwledig, gellid cludo nifer o ddyfeisiau gan ddefnyddio drôns.”
Dywedodd yr Athro Iain Donnison, Pennaeth IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Estynnwn ein llongyfarchiadau gwresocaf i Eleanor ar ei llwyddiant ysgubol yng Ngwobrau STEM y Telegraph eleni. Mae hi’n fyfyrwraig eithriadol o ddisglair a galluog sydd wedi ffynnu yn yr amgylchedd ymchwil dwys sydd yma yn IBERS. Edrychwn ymlaen nawr at ei gweld yn datblygu ymhellach ei syniad ysbrydoledig ar gyfer bachu’r dechnoleg ddiweddaraf i ganfod TB mewn pobl a chael effaith ar fywydau go iawn.”
Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae Gwobrau STEM y Telegraph yn cynnig cyfle i is-raddedigion brofi ei doniau i rai o enwau mwyaf y diwydiant.
Yr her eleni oedd cynnig syniadau allai ddatrys problemau mewn pum maes – gofal iechyd, arloesedd, technoleg foduro, trydanol a thechnoleg amddiffyn.
Dywed Eleanor fod ei chwrs ym Mhrifysgol Aberystwyth yn hanfodol i’w syniad: “Roeddwn eisiau astudio’n Aber oherwydd bod y cwrs yn unigryw gan ei fod yn cyfuno geneteg a biocemeg, a hefyd yn darparu hyfforddiant mewn biowybodeg - sy’n cymhwyso technegau cyfrifiadureg i ddata biolegol.
“Dwi wrth fy modd yma – y bywyd awyr agored a’r llety arbennig sydd yn Fferm Penglais. Dwi’n gobeithio parhau â’m hastudiaethau a chwblhau fy noethuriaeth yma.”
Er mwyn canfod mwy am syniad Eleanor, gwyliwch ffilm fer arlein a gynhyrchwyd gan dîm Gwobrau STEM y Telegraph.