Arbenigwr ar bysgodfeydd yn rhybuddio am orbysgota tiwna yng Nghefnfor India

Mae’r Athro Paul Shaw o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio dulliau genetig i astudio poblogaethau pysgod ac i wella cynaliadwyedd pysgodfeydd ar draws y byd.

Mae’r Athro Paul Shaw o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn defnyddio dulliau genetig i astudio poblogaethau pysgod ac i wella cynaliadwyedd pysgodfeydd ar draws y byd.

24 Hydref 2019

Mae biolegydd morol o Brifysgol Aberystwyth yn galw am newid polisi ym maes pysgodfeydd rhyngwladol er mwyn amddiffyn stociau o diwna melyn yng Nghefnfor India.

Mae’r Athro Paul Shaw o Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol (IBERS) wedi bod yn astudio geneteg tiwna melyn oddi ar arfordir De Affrica, lle mae Cefnfor India yn cwrdd â Chefnfor yr Iwerydd.

Mae ei ymchwil yn dangos bod y ffin geo-wleidyddol, sy’n cael ei defnyddio i ddiffinio terfynau allanol ardaloedd asesu stoc Cefnforoedd India a’r Iwerydd, yn golygu nad yw stociau tiwna yn cael eu mesur yn gywir.

O ganlyniad, meddai, gall y broblem o orbysgota tiwna melyn yng Nghefnfor India fod yn waeth na’r hyn a dybiwyd.

Mae’r Athro Shaw yn cyflwyno ei ganfyddiadau i gyfarfod o swyddogion Comisiwn Tiwna Cefnfor India yn San Sebastián yng ngogledd Sbaen ddydd Iau 24 Hydref 2019.

“Gyda chydweithwyr yn Ne Affrica, rydyn ni wedi bod yn mapio geneteg ac arferion mudo tiwna melyn yng ngorllewin Cefnfor India,” esboniodd yr Athro Shaw.

“Rydyn ni’n gwybod bod poblogaethau trofannol tiwna melyn yn mudo ar adegau penodol i’r dyfroedd o amgylch De Affrica, gan gynnwys ardal o Gefnfor yr Iwerydd rhwng Cape Point ac arfordir Namibia.

“Mae ein hymchwil geneteg yn dangos bod y pysgod yma yn tarddu o boblogaeth tiwna Cefnfor India. Ond ar hyn o bryd, os cânt eu dal yn yr ardal hon yn ne-ddwyrain yr Iwerydd, maen nhw’n cael eu cyfrif fel rhan o stoc Cefnfor yr Iwerydd.

“Mae hyn yn golygu nad yw poblogaeth tiwna Cefnfor India yn cael ei chyfrif yn iawn ac y gall fod angen addasu’r cwotâu presennol sydd wedi’u gosod ar gyfer rheoli’r bysgodfa mewn modd cynaliadwy. Mae hefyd yn golygu y gallai gorbysgota tiwna melyn yng Nghefnfor India fod yn waeth nag oedden ni’n tybio.

“Os bydd gorbysgota yn parhau, bydd llai o diwna melyn yng Nghefnfor India. Fe all maint pysgod fynd yn llai, ac fe fyddai hynny’n cael effaith negyddol ar werth y bysgodfa bwysig hon fel ffynhonnell bwyd ac incwm i wledydd gorllewin Cefnfor India.

Yn ei gyfarfod â Chomisiwn Tiwna Cefnfor India, bydd yr Athro Show yn argymell newid y dull o gyfri’r boblogaeth tiwna melyn oddi ar benrhyn gorllewinol De Affrica.

Mae'r Athro Shaw yn arbenigwr blaenllaw ar ddefnyddio dulliau genetig er mwyn deall poblogaethau pysgod, ac ar wella asesu a chynnal bioamrywiaeth genetig mewn pysgodfeydd.

Ym mis Gorffennaf 2019, derbyniodd Wobr Prifysgol Aberystwyth am Effaith Eithriadol mewn Ymchwil i gydnabod ei waith.