Cymrodyr Rutherford yn adeiladu ar bartneriaeth newydd gydag Affrica

Chwith i’r dde: Y Cymrodyr Rutherford Dr Frans Persendt and Dr Eliakim Hamunyela o Brifysgol Namibia gyda’r Athro Chris Thomas o Brifysgol Aberystwyth. Maent wedi bod yn archwilio’r defnydd o dechnoleg synhwyro o bell megis dronau rhad i daclo malaria yng ngogledd Namibia.

Chwith i’r dde: Y Cymrodyr Rutherford Dr Frans Persendt and Dr Eliakim Hamunyela o Brifysgol Namibia gyda’r Athro Chris Thomas o Brifysgol Aberystwyth. Maent wedi bod yn archwilio’r defnydd o dechnoleg synhwyro o bell megis dronau rhad i daclo malaria yng ngogledd Namibia.

01 Ebrill 2019

Mae cymrodoriaethau a ddyfarnwyd i ddau ymchwilydd o Brifysgol Namibia yn adeiladu ar bartneriaeth strategol newydd rhwng Prifysgol Aberystwyth a’r sefydliad yn ne Affrica.

Ddiwedd mis Mawrth 2019 bydd Dr Frans Persendt a Dr Eliakim Hamunyela yn cwblhau cymrodoriaethau tymor byr Rutherford yn Aberystwyth lle maent wedi bod yn gweithio ar brosiectau ymchwil sy’n gysylltiedig â rheoli adnoddau dŵr mewn amgylcheddau sych.

Mae Dr Persendt, sydd wedi bod yn Aberystwyth ers mis Tachwedd 2018 a Dr Hamunyela ers Ionawr eleni, yn gweithio yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Namibia.

Yn Aberystwyth maent wedi cael eu mentora gan yr Athro Chris Thomas yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig, a chydweithio gyda’r Athro Stephen Tooth, yr Athro Andrew Thomas a Dr Andrew Hardy o’r Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear.

Yn ogystal â datblygu syniadau ar gyfer ymchwil ar y cyd, mae’r tîm yn astudio’r cysylltiadau rhwng risg malaria a phrosesau hydrolegol a geomorffolegol yng  ‘ngwlyptiroedd-sychtiroedd’ gogledd Namibia.

Dywedodd Dr Persendt: “Mae’r cynefinoedd yma’n ffurfio cynefinoedd bridio cludwyr sydd angen cael eu hadnabod a’u dileu er mwyn galluogi Namibia i gynyddu maint ei rhaglen rheoli malaria sydd ar drothwy’r cyfnod dileu.”

Mae Dr Persendt a Dr Hamunyela wedi bod yn archwilio’r defnydd o dechnoleg synhwyro o bell - lloerenau a cherbydau hedfa di-beilot megis dronau rhad - i adnabod y cynefinoedd mewn manylder gofodol a thymhorol.

Dywedodd Dr Hamunyela: “Gyda gwyddonwyr o Brifysgol Aberystwyth, rydym yn archwilio syniadau newydd i ddatblygu cynigion ymchwil gwyddonol i gynnal ymchwil disgyblaethol a rhyngddisgyblaethol gyda ffocws arbennig ar y ryngwyneb rhwng newid byd-eang a One Health.”

Mae Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Namibia yn bwriadu datblygu prosiectau ymchwil ar y cyd mewn meysydd megis synhwyro o bell, cnydau porthiant, clefydau milfeddygol ac adnoddau morol.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil, Cyfnewid Gwybodaeth ac Arloesi: “Mae cynllun Cymrodoriaethau Rutherford wedi bod yn llwyddiant ysgubol yma yn Aberystwyth ac mae croesawu Frans a Eliakim fel ein Cymrodyr Rutherford olaf nid yn unig wedi ein harwain at gynigion ymchwil cydweithredol ond wedi cryfhau ymhellach ddatblygiad ein partneriaeth sefydliadol strategol newydd gyda Phrifysgol Namibia (UNAM). Mae’r amseru wedi bod yn ddelfrydol i gyd-fynd â gwaith CIDRA, ein Canolfan Datblygu Ymchwil Rhyngwladol newydd yn Aberystwyth, ac edrychwn ymlaen at ddatblygu prosiectau ymchwil ar y cyd yn y dyfodol gyda Phrifysgol Namibia.”

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi derbyn pum cymrodoriaeth dan gynllun Cronfa Grantiau Partneriaeth Strategol Rutherford dan weinyddiaeth Universities UK International (UUKi).

Yn 2018, fe dreuliodd Dr Benjamin van der Waal o Brifysgol Rhodes yn Grahamstown, De Affrica, a Dr Peyton Lisenby a Dr Paul Harvey o Brifysgol Macquarie yn Sydney, Awstralia gyfnod yn gweithio ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Caiff y Cymrodoriaethau tymor byr eu hariannu gan Adran Busnes, Ynni a Diwydiant Llywodraeth y DU drwy Gronfa Rutherford, gyda’r nod o ddenu doniau byd-eang a chryfhau sylfaen ymchwil y DU.

Mae Aberystwyth yn un o 24 o brifysgolion yn y DU sydd wedi eu dewis ar gyfer y cymrodoriaethau ymchwil.