Cydnabod effaith ymchwil ym meysydd iechyd byd-eang a physgodfeydd cynaliadwy
![Yr Athro Colin McInnes (chwith) gyda'r Athro Tim Woods a'r Athro Paul Shaw (dde) gyda Dr Anwen Jones yn derbyn eu Gwobrau am Effaith Eithriadol](/cy/ibers/news/archive/2019/awst/AU-Awards-for-Exceptional-Research---web-1.png)
Yr Athro Colin McInnes (chwith) gyda'r Athro Tim Woods a'r Athro Paul Shaw (dde) gyda Dr Anwen Jones yn derbyn eu Gwobrau am Effaith Eithriadol
21 Awst 2019
Mae dau aelod o staff sy'n gweithio ar brosiectau arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cael eu gwobrwyo i gydnabod effaith gadarnhaol eu gwaith ymchwil, ym Mhrydain ac yn rhyngwladol.
Cyflwynwyd Gwobr Effaith Eithriadol mewn Ymchwil yn y Gwyddorau Cymdeithasol, y Celfyddydau a'r Dyniaethau i'r Athro Colin McInnes o'r Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol.
Mae ymchwil yr Athro McInnes wedi arwain at ddatblygu fframwaith Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer iechyd sifiliaid drwy gydweithredu â sefydliadau milwrol pan geir achosion torfol o salwch.
Cyflwynwyd Gwobr Effaith Eithriadol mewn Ymchwil Gwyddonol i'r Athro Paul Shaw o Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Mae’r Athro Shaw wedi bod yn defnyddio dulliau genynnol i gynorthwyo dulliau effeithiol a chynaliadwy o reoli pysgodfeydd.
Cyflwynwyd Gwobrau Effaith Eithriadol Prifysgol Aberystwyth yn ystod seremonïau graddio 2019 y Brifysgol a gynhaliwyd ym mis Gorffennaf yn Neuadd Fawr Canolfan Gelfyddydau'r Brifysgol.
Dywedodd yr Is-Ganghellor, yr Athro Elizabeth Treasure: "Mae Gwobrau Effaith Eithriadol Prifysgol Aberystwyth, a gyflwynwyd am y tro cyntaf yn 2018, yn gydnabod cyflawniadau'r staff sy'n dangos yn eglur eu bod yn defnyddio eu hymchwil er lles y gymdeithas ehangach. Llongyfarchiadau i'r enillwyr eleni sy'n gweithio ar ddau brosiect ymchwil gwahanol iawn i'w gilydd, a'r ddau yn dangos y potensial sydd gan y Brifysgol i ysgogi newid cadarnhaol yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
Cydweithredu ar achosion torfol o salwch
Pan fo salwch yn lledu'n dorfol mae'n fygythiad i les yn genedlaethol ac yn fyd-eang, gan fygwth datblygu economaidd a diogelwch. Serch hynny, mae dadansoddiad gan Sefydliad Iechyd y Byd wedi awgrymu bod llawer o wledydd heb y trefniadau ar waith i allu ymdrin ag achosion o'r fath.
Tua diwedd 2017, nododd Sefydliad Iechyd y Byd ei bod hi'n bosib y byddai gan sefydliadau milwrol ddigon o adnoddau gwerthfawr i allu gwella'r ymateb i achosion torfol o salwch, ond bod angen datblygu fframwaith fel y byddai'r gwasanaethau iechyd sifil a'r sefydliadau milwrol yn gallu cydweithredu â'i gilydd.
Dros y 12 mis diwethaf, mae'r Athro McInnes wedi drafftio'r fframwaith hwn i Sefydliad Iechyd y Byd, a fydd yn golygu ein bod mewn gwell sefyllfa o lawer wrth ymateb i achosion torfol o salwch ar draws y byd.
Rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy
Mae ymchwil yr Athro Paul Shaw wedi canolbwyntio ar ddiffiniadau genynnol y strwythurau stoc mewn rhywogaethau sy'n cael eu pysgota drwy'r byd, gan gynnwys tiwna yn Ne Affrica, y dantbysgodyn ger ynysoedd y Falkland, ac yn nes adre, stoc benodol o ddraenog y môr oddi ar lannau Cymru ym Môr Iwerddon.
Mae ei waith wedi cyfrannu at newidiadau i sut y rheolir stociau sy'n cael eu pysgota, ac i sut mae Cyngor Stiwardiaeth y Môr yn diffinio stociau cynaliadwy.
Mae'r ymchwil hefyd wedi rhoi tystiolaeth i reolwyr pysgodfeydd sydd wedi'u helpu i lobïo awdurdodau cenedlaethol a rhyngwladol i'w hannog i newid rheoliadau.
Mae ei waith wedi arwain at ddulliau mwy cywir, ac felly'n fwy cynaliadwy, o bysgota stociau gwyllt, sy'n cyfrannu at ddiogelu cyflenwadau bwyd yn lleol ac yn fyd-eang ac at ddatblygiadau masnachol, ac ar yr un pryd yn helpu i gadw bioamrywiaeth a diogelu poblogaethau a rhywogaethau sydd dan fygythiad.