£7.3 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i roi hwb i sector bwyd Cymru

Dan arweiniad Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) bydd y buddsoddiad yn ariannu dwy fenter: Bwydydd y Dyfodol a BioArloesi Cymru.

Dan arweiniad Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) bydd y buddsoddiad yn ariannu dwy fenter: Bwydydd y Dyfodol a BioArloesi Cymru.

19 Gorffennaf 2018

Ar drothwy Sioe Frenhinol Cymru, mae Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, wedi cyhoeddi pecyn cymorth gwerth £7.3 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i fynd i’r afael â’r bwlch sgiliau yn y sector bwyd-amaeth ac i helpu busnesau i ddatblygu cynhyrchion a gwasanaethau newydd.

Dan arweiniad Athrofa Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS) bydd y buddsoddiad yn ariannu dwy fenter: Bwydydd y Dyfodol a BioArloesi Cymru.

Bydd BioArloesi Cymru yn cael dros £3 miliwn o arian yr Undeb Ewropeaidd i helpu cyflogwyr i fynd i’r afael â phrinder sgiliau lefel uchel yn y sector bwyd-amaeth a biotechnoleg.

Bydd BioArloesi Cymru, mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, yn canolbwyntio ar bobl sydd eisoes yn gweithio yn y sector sef technegwyr, ymgynghorwyr, ymchwilwyr a rheolwyr sy’n gweithio yn y gadwyn cyflenwi bwyd a biotechnoleg. Cynigir cymwysterau pwrpasol a sgiliau sydd wedi’u hachredu gan y diwydiant i ddiwallu anghenion y diwydiant.

Bydd Bwydydd y Dyfodol yn cael £1.9 miliwn gan yr Undeb Ewropeaidd i sbarduno busnesau bwyd yng Nghymru i ehangu, gan ddefnyddio ffrwyth ymchwil, gwyddoniaeth a thechnoleg i’w helpu i gystadlu’n well.

Bydd Bwydydd y Dyfodol a BioArloesi Cymru yn cydweithio i ddarparu arbenigedd ac ymchwil o safon fyd-eang ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg bwyd a maetheg i fusnesau uchelgeisiol yng Nghymru sydd am ddatblygu cynhyrchion iach ac arloesol ar gyfer marchnadoedd y DU a thramor.

Meddai Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig: “Mae’r sectorau bwyd-amaeth a biotechnoleg yn bwysig iawn i Gymru. Mae buddsoddi mewn sgiliau lefel uwch ac ymchwil yn hanfodol os ydyn ni am weld twf yn yr economi, mwy o swyddi a busnesau sy’n arloesol ac yn gystadleuol. Rwy'n falch iawn bod y gwaith hwn yn canolbwyntio ar les defnyddwyr a chynhyrchion iach, gan sicrhau ansawdd cynnyrch, diogelwch bwyd ac amddiffyn rhag twyll bwyd”.

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Pennaeth IBERS: “Rydyn ni’n croesawu’r pecyn cyllid cynhwysfawr hwn gan yr Undeb Ewropeaidd sy’n dod ar amser hollbwysig i’r sector bwyd ac amaethyddiaeth. Mae’n arwydd o hyder yn arbenigedd IBERS a’i bartneriaid, sy’n golygu y gallwn sicrhau bod mwy o gwmnïau yng Nghymru yn gallu manteisio ar ffrwyth mentrau fel hyn i wella sgiliau’u gweithwyr a chreu cynhyrchion iach ac arloesol sy’n addas ar gyfer y dyfodol”.

Daw cyllid pellach gan y Brifysgol a’i phartneriaid sy’n rhan o’r prosiectau, gan gynnwys BioArloesi Cymru.