Sylw i newid hinsawdd ar Ddiwrnod Ewrop – 9 Mai

Bydd Ecostructure yn gweithio gyda rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi i ddatblygu ymyriadau ecolegol syml ond arloesol ar gyfer gwella bioamrywiaeth, gan adeiladu ar waith arobryn IBERS ar welliannau pyllau craig artiffisial yn Nhywyn a deunyddiau amgen i goncrid.

Bydd Ecostructure yn gweithio gyda rhanddeiliaid a gwneuthurwyr polisi i ddatblygu ymyriadau ecolegol syml ond arloesol ar gyfer gwella bioamrywiaeth, gan adeiladu ar waith arobryn IBERS ar welliannau pyllau craig artiffisial yn Nhywyn a deunyddiau amgen i goncrid.

03 Mai 2017

Bydd effeithiau tebygol newid hinsawdd ar gymunedau arfordirol gorllewin Cymru a dwyrain Iwerddon yn cael sylw mewn arddangosfa undydd ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Mae’r digwyddiad yn cael ei gynnal yn yr Hen Goleg ar Ddiwrnod Ewrop – Dydd Mawrth 9 Mai 2017, ac yn cynnig cyfle gwerthfawr i ddysgu mwy am bedwar prosiect ymchwil sydd wedi denu €18m o fuddsoddiad gan Raglen Iwerddon-Cymru’r Undeb Ewropeaidd yn ddiweddar.

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth sydd yn gweithio ar y pedwar prosiect - Acclimatize, CHERISH, Ecostructure a Bluefish – yn cyflwyno’u gwaith ac wrth law i ateb cwestiynau gan aelodau o’r cyhoedd.

Dywedodd yr Athro Chris Thomas, Dirprwy Is-Ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Mae Prifysgol Aberystwyth yn ymwybodol iawn o bwysigrwydd astudio effeithiau tebygol newid hinsawdd ar Fôr Iwerddon a’i gymunedau ac rydym yn falch iawn ein bod yn cefnogi’r gwaith gwerthfawr hwn. Gyda chefnogaeth cyllid Ewropeaidd mi fydd y pedwar prosiect hwn yn defnyddio’r arbenigedd ac adnoddau gwyddonol o safon byd sydd yma yn Aberystwyth er mwyn gwneud cyfraniad gwirioneddol i’n dealltwriaeth o effeithiau tebygol newid hinsawdd ar y rhan yma o’r Deyrnas Unedig.

Mae Acclimatize yn canolbwyntio ar effaith newid hinsawdd ar ddyfroedd ymdrochi er mwyn diogelu iechyd pobl a’r amgylchedd morol.

Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Aberystwyth yn gweithio gyda chydweithwyr o Goleg Prifysgol Dulyn ar y prosiect the €6.7m hwn sydd wedi denu €5.3m o gyllid Ewropeaidd.

Mae CHERISH yn canolbwyntio ar beryglon newid yn yr hinsawdd i dreftadaeth rhai o dirweddau arfordirol pwysicaf Cymru ac Iwerddon.

Mae’r prosiect €5.2m yn cael ei arwain gan Gomisiwn Brenhinol Henebion Cymru (CBHC) ac wedi denu €4.1m o gyllid Ewropeaidd.

Nod Ecostructure yw hybu bioamrywiaeth ar strwythurau arfordirol yng Nghymru ac Iwerddon drwy wella gwerth ecolegol amddiffynfeydd arfordirol a strwythurau ynni adnewyddadwy.

Ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth sydd yn arwain y cynllun €4m mewn cydweithrediad  gyda Choleg Prifysgol Dulyn, Prifysgol Bangor, Coleg Prifysgol Cork a Phrifysgol Abertawe, ac mae wedi denu ‎€3.25m o gyllid Ewropeaidd.

Bydd Bluefish yn cynorthwyo i amddiffyn bywyd môr wrth ddatblygu diwydiannau pysgota a dyframaeth yng Nghymru ac Iwerddon, a chynorthwyo i gryfhau cysylltiadau economaidd a chydweithio trawsffiniol.

Mae’r prosiect €6.6m hwn yn cynnwys ymchwilwyr o Aberystwyth, Bangor, Abertawe ac yn gweithio â phartneriaid y Marine Institute, Bord Iascaigh Mhara a Choleg Prifysgol Cork, ac wedi denu €5.3m o gyllid Ewropeaidd.

Darparwyd cyllid ar gyfer y pedwar prosiect gan Rhaglen Iwerddon-Cymru 2014-2020 yr Undeb Ewropeaidd http://irelandwales.eu/

Bydd digwyddiad Diwrnod Ewrop Prifysgol Aberystwyth yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 9 Mai yn yr Hen Goleg, Aberystwyth a bydd ar agor o 9 y bore tan 6 yr hwyr. Croeso i bawb. Darperir te a choffi am ddim.