Amaethyddiaeth yn Aberystwyth yn ymuno â Daearyddiaeth yn y 100 uchaf yn y byd

08 Mawrth 2017

Aberystwyth yw un o’r 100 prifysgol orau yn y byd ar gyfer astudio Amaethyddiaeth a Daearyddiaeth yn ôl cynghrair y QS World University Rankingsyn ôl pwncsydd wedi ei chyhoeddi heddiw, ddydd Mercher 8 Mawrth.

Mae Amaethyddiaeth, sydd wedi ei restru o dan Amaethyddiaeth a Choedwigaeth, yn y 100 uchaf, o’r 829 o sefydliadau ar draws y byd sydd wedi eu cynnwys.

Daw cynnydd Amaethyddiaeth yn sgil llwyddiant Daearyddiaeth a ddringodd i’r 100 uchaf am y tro cyntaf yn 2016 ac sy’n cadw’i statws yng nghynghrair pynciau 2017.

Bellach mae pedwar pwnc sy’n cael eu cynnig gan Aberystwyth wedi eu cynnwys ymysg ‘Elît Byd’ yn ôl QS World University Rankings.

Mae Gwleidyddiaeth ac Astudiaethau Rhyngwladol yn cadw ei lle yn y 150 uchaf o’r 576 ar draws y byd, ac mae Gwyddor yr Amgylchedd yn y 300 uchaf o’r 1100 ar draws y byd.

Mewn datblygiad pellach, mae Prifysgol Aberystwyth yn y 40% uchaf yn y byd am y Celfyddydau a’r Dyniaethau (safle 362 o 959) a’r Gwyddorau Cymdeithasol a Rheolaeth (safle 451-500 o 1232).

Bellach yn ei chweched flwyddyn, gwerthuswyd 4,4386 o brifysgolion a rhestrwyd 1117 o sefydliadau ar draws y byd yn y QS World University Rankings yn ôl pwnc.

Dadansoddwyd dros 127 miliwn o ddyfyniadau a briodolwyd, a gwiriwyd darpariaeth 18,900 o raglenni.

Mae’r prifysgolion yn cael eu barnu yn y meysydd canlynol:

  • Enw Da Academaidd - gofynnwyd i academyddion ledled y byd ble maent yn credu mai’r gwaith gorau yn cael ei wneud;
  • Enw Da Ymysg Cyflogwr - pa sefydliadau sy’n cynhyrchu’r graddedigion gorau yn ôl cyflogwyr graddedigion;
  • Cymhareb Myfyriwr - Staff -y prifysgolion sydd â’r adnoddau gorau i ddarparu dosbarthiadau bychain ac arolygiaeth unigol o safon dda
  • Dyfyniadau fesul Cyfadran - sy'n mesur effaith ymchwil y brifysgol
  • Cymhareb cyfadran ryngwladol a chymhareb myfyrwyr rhyngwladol - sy'n adlewyrchu llwyddiant y brifysgol wrth ddenu myfyrwyr ac academyddion o wledydd eraill.

Dywedodd yr Athro John Grattan, Dirprwy Is-Ganghellor Profiad Myfyrwyr a Rhyngwladol: “Mae hyn yn newyddion gwych ac yn adlewyrchu parch uchel academyddion ar draws y byd tuag at y gwaith academaidd sy’n cael ei wneud ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae canlyniadau’r Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil diweddaraf yn gosod Prifysgol Aberystwyth yn y 50 uchaf yn y Deyrnas Gyfunol am effaith ymchwil, ac mae myfyrwyr sydd yn astudio yma yn elwa o gael eu dysgu gan staff academaidd y mae eu gwaith yn cael ei ystyried o safon ryngwladol. Ac unwaith eto mae’n tanlinellu’r ffaith fod Aberystwyth yn lle eithriadol i ddysgu a byw.”

Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig: “Rydym wrth ein bodd bod Aberystwyth wedi dringo i’r 100 uchaf yn y byd. Ers cenedlaethau mae Aberystwyth yn cael ei chydnabod ar draws y byd am ei gwaith arloesol yn y gwyddorau biolegol ac mae cynghrair pynciau'r QS World University Rankings yn tanlinellu bod hyn mor wir heddiw ac a fu erioed.”

Gwelodd Prifysgol Aberystwyth gynnydd sylweddol yn ei pherfformiad mewn tablau cynghrair yn ystod 2016.

Yn Awst 2016 cyflawnodd Aberystwyth er pherfformid gorau erioed yn Arolwg Cenedlaethol y Myfyrwyr.

Prifysgol Aberystwyth oedd yr orau yng Nghymru, a’r pedwerydd o blith prifysgolion traddodiadol y Deyrnas Unedig ac un o’r deg uchaf ar gyfer boddhad cyffredinol myfyrwyr.

Roedd Aberystwyth yn un o'r dringwyr mwyaf yn y Sunday Times Good University Guide 2017 a’r gorau yng Nghymru am ragoriaeth dysgu a phrofiad myfyrwyr.

Ar draws y Deyrnas Unedig roedd Aberystwyth yn y 10fed safle am ragoriaeth dysgu ac yn safle 19 am brofiad myfyrwyr, cynnydd a ddisgrifiwyd gan y Times and Sunday Times Good University Guide yn “drawsnewidiad hynod” o’i gymharu â 2015.

Mae mwy o wybodaeth am y QS World University Rankings 2017 ar gael ar-lein.