Cyfleusterau milfeddygol newydd gwerth £4.2 miliwn gyda chefnogaeth yr UE yn Aberystwyth

Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn lansiad gynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth £4.2 miliwn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hefyd yn y llun mae (chwith i’r dde) Yr Athro Jamie Newbold, Athro Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS; Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth; yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; a’r Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS.

Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, yn lansiad gynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth £4.2 miliwn ym Mhrifysgol Aberystwyth. Hefyd yn y llun mae (chwith i’r dde) Yr Athro Jamie Newbold, Athro Gwyddor Anifeiliaid yn IBERS; Syr Emyr Jones Parry, Canghellor Prifysgol Aberystwyth; yr Athro Elizabeth Treasure, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth; a’r Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr IBERS.

24 Gorffennaf 2017

Heddiw, cyhoeddodd Lesley Griffiths, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, gynlluniau ar gyfer datblygu hyb milfeddygol newydd sbon gwerth £4.2 miliwn i hyrwyddo ymchwil i ddiogelu iechyd dynol ac anifeiliaid (dydd Llun 24 Gorffennaf 2017).

Bydd Prifysgol Aberystwyth yn arwain y prosiect Hyb Milfeddygol 1, gyda chefnogaeth ariannol o £3 miliwn gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru, i ddatblygu swyddfeydd a labordy manyleb uchel sy’n cynnwys yr holl gyfarpar angenrheidiol.

Dywedodd yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd wrth gynulleidfa niferus ym mhafiliwn addysg Prifysgol Aberystwyth yn Sioe Frenhinol Cymru y byddai’r datblygiad blaengar o fudd i’r diwydiant ffermio yng Nghymru a’r byd ehangach.

Meddai: “Bydd y buddsoddiad hwn, gyda chefnogaeth yr UE, yn gymorth i fynd i’r afael â’r heriau mawr sy’n ein hwynebu o ran diogelwch bwyd a newid yn yr hinsawdd yn ogystal â chanolbwyntio ar flaenoriaethau hirdymor Prifysgol Aberystwyth a Llywodraeth Cymru sef cefnogi gwyddorau milfeddygol ac iechyd anifeiliaid.

“Hefyd, dros y blynyddoedd nesaf bydd yn datgloi amrywiaeth o gyfleoedd i fusnesau ar draws y gadwyn gyflenwi da byw a’r diwydiannau cysylltiedig a fydd yn elwa ar y cyfleuster newydd, a’r cyfleoedd ymchwil cydweithredol a fydd yn arwain at ddatblygu cynhyrchion newydd a gwasanaethau ar gyfer y farchnad fyd-eang.”

Yn sgil Hyb Milfeddygol 1, bydd ymchwilwyr yn cydweithio â diwydiant i ddatblygu profion a brechlynnau  a fydd yn helpu i leihau colledion yn y diwydiant da byw a gwella iechyd anifeiliaid.

Yn benodol, bydd yr ymchwilwyr yn mynd ati i ddatblygu atebion ar gyfer clefydau a gludir gan anifeiliaid a allai drosglwyddo i bobl.

Hefyd, bydd y cyfleuster yn arwain datblygiadau pellach ym maes gofal iechyd anifeiliaid ac ymarfer milfeddygol yn ogystal â biodechnoleg, cynhyrchu bwyd anifeiliaid a diwydiannau cysylltiedig eraill.

Yn ôl Is-ganghellor Prifysgol Aberystwyth, yr Athro Elizabeth Treasure: “Mae gan Brifysgolion gyfraniad pwysig yn y gwaith o ddatblygu ymchwil sy’n cael effaith ar y cymunedau maent yn eu gwasanaethu. Bydd Hyb Milfeddygol 1 yn gwneud cyfraniad gwerthfawr i’r economi wledig ac i’r diwydiant da byw yma yng Nghymru a thu hwnt. Rydym ni’n falch o fod yn cydweithio ar y prosiect hwn gyda Phartneriaeth Tyfu’r Canolbarth, Canolfan Gwyddorau Milfeddygol Cymru a phartneriaid eraill.

“Mae’r cyfleuster hefyd yn gam pellach ymlaen yn natblygiad Aberystwyth fel canolfan o arbenigedd milfeddygol. Mae ein trafodaethau gyda’r Coleg Milfeddygol Brenhinol (RVC) yn parhau ar gynlluniau i gynnig rhaglen ar y cyd lle gall myfyrwyr gwyddorau milfeddygol yn Aberystwyth dreulio rhan o’u hamser yn astudio yn yr RVC a myfyrwyr yr RVC yn astudio rhai agweddau ar eu hyfforddiant yma, yn enwedig ymarfer gydag anifeiliaid mawr.”

Meddai Phil Thomas, milfeddyg o ardal Aberystwyth a Chyfarwyddwr Iechyd Da sy’n gonsortiwm o filfeddygfeydd annibynnol o Gymru ynghyd â Welsh Lamb and Beef Producers Ltd a Phrifysgol Aberystwyth:

“Mae Hyb Milfeddygol 1 yn ddatblygiad cyffrous ar gyfer gwasanaethau milfeddygol anifeiliaid yn Aberystwyth a’r Canolbarth. Yn sgil lansio Canolfan Gwyddorau  Milfeddygol Cymru gan Iechyd Da a Phrifysgol Aberystwyth yn 2015, bydd y cyfleusterau labordy newydd hyn yn ddull integredig ar gyfer cael diagnosis o glefydau a’u dileu er lles cynhyrchwyr a defnyddwyr da byw fel ei gilydd. Hefyd, gallai’r datblygiad ddarparu ffocws ar gyfer busnesau i ddatblygu cynhyrchion newydd a gwasanaethau, yn ogystal â’r potensial o greu swyddi newydd o ansawdd uchel yn yr ardal.”

Mae Prifysgol Aberystwyth wedi sicrhau £650 mil o fuddsoddiad pellach gan CIEL (Canolfan Rhagoriaeth mewn Arloesedd ym maes Da Byw) i wyddorau anifeiliaid sy’n gweithio ochr yn ochr â Hyb Milfeddygol 1.

Mae’r brifysgol yn un o’r 13 o sefydliadau ymchwil elît  yn y fframwaith CIEL ledled y DU sy’n darparu porth sy’n canolbwyntio ar sefydliadau ymchwil safon byd i ddatblygu atebion newydd i ddiwydiant mewn partneriaeth â 19 o gwmnïau masnachol.

Trwy gydweithio â CIEL bydd y bartneriaeth fasnachol o fewn Hyb Milfeddygol 1 yn cryfhau ac yn sicrhau ei bod yn parhau i ganolbwyntio ar ddod â chynhyrchion newydd i’r farchnad.