Teulu myfyrwraig yn dweud diolch â choed
Lizzie Tyson gydag un o’r coed a roddwyd gan ei rhieni i Barc Natur Penglais i nodi’r blynyddoedd hapus a dreuliodd hi fel myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth. (Ch-Dd) Len Kersley o Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais a drefnodd y digwyddiad, Jim Wallace ar ran Prifysgol Aberystwyth, y Cynghorydd Mark Strong a ddiolchodd i Mr a Mrs Tyson am eu rhoddion i'r drefn, gydag Oliver, Sue a Lizzie Tyson fu'n plannu'r coed.
25 Hydref 2016
Mae rhieni myfyrwraig raddedig o Aberystwyth wedi cyflwyno coed yn rhodd i barc natur lleol i ddiolch am addysg ardderchog eu merch.
Ers graddio mewn Cadwraeth Cefn Gwlad o Athrofa y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym mis Gorffennaf 2016, mae Lizzie Tyson a’i rhieni wedi bod yn edrych nôl ar yr amser hapus a dreuliodd yn Aberystwyth, yn cynnwys ei gwaith ym Mharc Natur Penglais gyda grŵp Gwirfoddolwyr Cadwraeth y myfyrwyr.
Ar ôl gweld pa mor frwdfrydig yr oedd ynghylch yr addysg a’r profiadau a gafodd yn Aberystwyth, fe benderfynodd rhieni Lizzie y bydden nhw’n hoffi rhoi rhywbeth yn ôl i’r Brifysgol a’r dref trwy gyfrannu egin goed pisgwydd a llwyfenni llydanddail i’w plannu ym Mharc Natur Penglais, lle y treuliodd Lizzie rai o’i hamseroedd hapusaf.
Mae’r parc, sy’n estyn dros 11 hectar o dir, yn enwog am yr arddangosfeydd trawiadol o glychau’r gog a welir yno yn gynnar yn y gwanwyn, ac mae’n cynnig llwybrau coetir tawel a golygfeydd ardderchog o’r dref.
Gynt yn rhan o Ystâd Penglais, cyflwynwyd coetir prydferth Parc Natur Penglais yn rhodd i’r dref gan Brifysgol Aberystwyth.
Agorwyd Parc Natur Penglais yn 1991 a chafodd ei ddynodi’n Warchodfa Natur Leol yn swyddogol yn 1995. Caiff ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â thrigolion lleol sy’n aelodau o Grŵp Cefnogi Parc Natur Penglais. Derbyniodd gydnabyddiaeth fel yr unig warchodfa drefol Dyn a Biosffer UNESCO yng Nghymru ac fe enillodd y Grŵp Cefnogi Wobr Tywysog Cymru am y gwaith cynnar a wnaed wrth sefydlu’r Parc.
Dywedodd Jim Wallace, Cyfarwyddwr Gwasanaethau Campws a Masnachol: “Mae’n wirioneddol hyfryd pan mae’n myfyrwyr yn ein gadael â’r teimlad ein bod ni wedi newid eu bywydau er gwell. Mae Lizzie yn enghraifft wych o fyfyrwraig gydwybodol sydd wedi defnyddio pob cyfle a gynigiwyd iddi gan y Brifysgol ac sydd hefyd wedi gwneud ymdrech I roi rhywbeth yn ôl I’n cymuned. Mae’r coed sydd wedi’u plannu yn ffordd arbennig o ddangos ymroddiad Lizzie fel gwirfoddolwraig ac rwy’n gobeithio y bydd hyn yn ysbrydoli myfyrwyr eraill i wneud y gorau o’u hamser gyda ni hefyd.”
Bydd rhieni Lizzie, Sue ac Oliver Tyson, sydd ill dau yn athrawon, yn plannu’r coed ar 24 Hydref yng nghwmni cynrychiolwyr o Barc Natur Penglais, Cyngor Sir Ceredigion a Phrifysgol Aberystwyth, a fydd yn diolch iddynt am y rhoddion caredig.