Cennydd o Aberystwyth yn ail yn Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn
Cennydd Jones yn derbyn ei wobr o’r chwith: Abby Cook Kite Consulting gyda Manod Williams Prifysgol Aberystwyth; Cadeirydd RABDF Mike King; a Edward Lott Kite Consulting.
30 Mawrth 2016
Mae Cennydd Jones o Bontsian, Llandysulwedi dodynailyngngwobrfawreddog yr RABDF MSD Iechyd Anifeiliaid Myfyriwr Llaeth y Flwyddyn. Mae Cennyddyneiflwyddynolaf,ynastudio Amaethyddiaethgyda Gwyddor Anifeilaidyn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)ym Mhrifysgol Aberystwyth afegurodd 26 oymgeiswyreraill.“Roeddwnynhapusdros benigyrraedd yrowndderfynol, adydwiddimyngallucredufymodwedi dodynail,diolchienwebiad ganfynarlithydd Manod Williamsyn yllecyntaf,”meddai.
Adlewyrchir brwdfrydedd Cennydd mewn godro wrth iddo helpu’r busnes teuluol i ddychwelyd i ffermio llaeth. “Dros 30 mlynedd yn ôl, bu i fy nhaid a nain Idwal a Pegi, symud o ffermio llaeth i gig eidion sugno; ond er mwyn sicrhau dyfodol hir dymor i’r uned hon sydd yn seiliedig ar borfa, cytunwyd mai’r unig ffordd ymlaen oedd trosi yn ôl i laeth ac yn raddol ehangu i 120 o wartheg,” meddai.
Fe ymddangosodd Cennydd ar raglen boblogaidd Countryfile ar BBC One yn ddiweddar ac wrth wrth edrych yn ôl ar ei amser yn astudio yn IBERS, dywedodd “I fod yn deg, mae pedair mlynedd yn Aberystwyth wedi bod yn wych.”
Ar ôl graddio mae Cennydd yn bwriadu teithio cyn dychwelyd i’r fferm deuluol a diogelu swydd ymgynghorol rhan amser. “O ganlyniad i gael profiad o weithio ar sustemau mewnbwn isel yn Seland Newydd, hoffwn deithio i wledydd sydd yn cefnogi sustemau effeithlon a dysgu mwy, er enghraifft am reoli ffrwythlondeb.”
Ychwanefodd “Mae’n rhaid bod yn optimistaidd ym mha bynnag ddiwydiant yr ydych yn gweithio gan y bydd uchafbwyntiau ac isafbwyntiau ymhob un. Mae’r galw am nwyddau llaeth i fod i gynyddu yn y tymor hir, ac unwaith y byddwn yn cymryd cam i fyny mewn allforio a dechrau cael cydbwysedd rhwng cyflenwad a galw, yna tybiaf y gallwn edrych ymlaen at sefydlogrwydd ym mhris llaeth."