Pam bod gwahanol fathau o bridd yn allweddol i ddwysáu amaethyddiaeth mewn modd cynaliadwy
Yr arbenigwr ar bridd, yr Athro Jane Rickson
30 Hydref 2015
Bydd yr arbenigwr ar bridd, yr Athro Jane Rickson o Brifysgol Cranfield, yn trafod 'Pam bod gwahanol fathau o bridd yn allweddol i ddwysáu amaethyddiaeth mewn modd cynaliadwy yn wyneb newid yn yr hinsawdd' mewn darlith gyhoeddus i'w chynnal ym Mhrifysgol Aberystwyth ar 11 Tachwedd am 6.30pm.
Bydd Jane Rickson, Athro mewn Erydiad a Chadwraeth Pridd yn y Sefydliad AmaethBwyd yn trafod yr adnodd naturiol sylfaenol y mae pob busnes amaethyddol yn dibynnu arno, yn nigwyddiad diweddaraf cyfres darlithoedd cyhoeddus y Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol i Ynni Carbon Isel a’r Amgylchedd.
Bydd y ddarlith yn ystyried yr amryw alwadau a wenir o’r pridd, gan gynnwys cynyddu cyflenwad bwyd (faint ohono, ansawdd a pha mor amserol mae’n cael ei gynhyrchu) a gwrthsefyll effeithiau niweidiol tywydd eithafol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd. Bydd yr Athro Rickson hefyd yn trafod sut y gall y ffordd yr ydym yn trin priddoedd heddiw beryglu eu gallu yn y dyfodol i gyflenwi ystod o nwyddau a gwasanaethau ecosystem, gan gynnwys cynhyrchu bwyd, storio dŵr, maetholion a charbon, a diogelu bioamrywiaeth.
Bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i sut y dylai polisïau ac arferion o reoli pridd mewn modd cynaliadwy gynnal cynhyrchu cnydau economaidd, cynna bywoliaeth ffermwyr a gwarchod yr amgylchedd, fel y gallir bodloni amcanion cynaliadwyedd yn y tymor byr a hir.
Bydd y ddarlith gyhoeddus yn cael ei chynnal gan Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ar Gampws Penglais Prifysgol Aberystwyth ar ddydd Mercher 11 Tachwedd. Cynhelir derbyniad diodydd yn IBERbach yn Adeilad IBERS o 6.00pm, gyda'r ddarlith gyhoeddus i ddilyn yn Adeilad Edward Llwyd am 6.30pm.
Dywedodd yr Athro David Thomas, Cyfarwyddwr Rhwydwaith Ymchwil Cenedlaethol Sêr Cymru ar gyfer Carbon Isel, Ynni a'r Amgylchedd, “Rydym yn falch iawn bod yr Athro Rickson yn cyfrannu at gyfres Ddarlithoedd Cyhoeddus NRN-LCEE yn ystod Blwyddyn Ryngwladol Priddoedd 2015 “.
Dywedodd yr Athro Mike Gooding, Cyfarwyddwr Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ym Mhrifysgol Aberystwyth: “Rydym yn edrych ymlaen at groesawu’r Athro Rickson i Brifysgol Aberystwyth ac rydym yn ymestyn gwahoddiad i fyfyrwyr, staff ac aelodau o'r cyhoedd i ymuno â ni ar gyfer darlith sy'n argoeli i fod un graff iawn”.
Bydd y ddarlith yn cael ei recordio a gellir ei dilyn yn fwy ar-lein drwy gwe-ddarllediad byw, gweler gwefan digwyddiad i gael mwy o wybodaeth.
AU35115