Pryfed teiliwr ac ecosystem dan fygythiad gan newid hinsawdd
Pryfyn teiliwr – cranefly neu daddy longlegs
31 Gorffennaf 2015
Mae Matthew Carroll, myfyriwr ymchwil PhD gydag Adran Bioleg Prifysgol Efrog ar y cyd gydag Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig Prifysgol Aberystwyth (IBERS), yn gyfrannwr allweddol at erthygl a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Nature Communications heddiw.
Mae nifer o rywogaethau o adar prin yr ucheldir dan fygythiad gan effeithiau newid hinsawdd ar orgorsydd y Deyrnas Gyfunol, ynghyd â swyddogaethau ecosystem eraill, yn ôl darganfyddiad ecolegwyr ym Mhrifysgol Caerefrog, Prifysgol Aberystwyth a’r Gymdeithas Gwarchod Adar (RSPB); gyda'r elfen ymchwil ecolegol ar bryfed teiliwr wedi ei wneud gan Mathew a oruchwylir ar y cyd gan Peter Dennis o Brifysgol Aberystwyth.
Mae'r rhan fwyaf o'n dŵr yfed yn dod o’r mawn ucheldirol hyn ac mae nifer o rywogaethau o adar eiconig megis pibydd y mawn, cwtiad aur a’r rugiar goch yn dibynnu ar gynefinoedd y tir gwlyb hwn ar gyfer nythu a bwydo.
Mae gwyddonwyr yn rhybuddio bod newid yn yr hinsawdd yn bygwth y cynefinoedd yma, nid yn unig o dymheredd uwch yn cynyddu dadelfeniad mawn, ond hefyd drwy newid mewn patrymau glawio - gyda sychder yn yr haf yn effeithio yn sylweddol ar hydroleg yr orgors.
Roedd yr astudiaeth, a oedd yn cynnwys cydweithrediad ag Ymddiriedolaeth Adar Prydain, Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Leeds a ariennir yn rhannol gan yr RSPB, yn dangos bod y pryfyn teiliwr diymhongar, sydd yn fwy adnabyddus fel 'daddy longlegs', yn gyswllt hanfodol i fesur effaith newid hinsawdd ar rywogaethau adar y mawndir.
Mae'r adar yn dibynnu ar y pryfed teiliwr sy’n llawn protein fel bwyd ar gyfer cywion, ond mae gwyddonwyr wedi darganfod y bydd sychder yn yr haf, sydd yn debygol o gynyddu, yn achosi dirywiad sylweddol yn niferoedd y pryfed teiliwr ac yn sgil hynny'r rhywogaethau o adar sy'n dibynnu arnyn nhw.
Dr Peter Dennis oedd yn cyd-oruchwylio prosiect PhD Matthew Carroll a dywedodd: “Mae manteision dull cydweithredol o ymchwil wedi eu hamlygu yn yr erthygl hon yn Nature Communications, sydd wedi datblygu ein dealltwriaeth o ganlyniadau newid hinsawdd ar gyfer bioamrywiaeth ac ecoleg mynyddoedd, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. "
Mae Dr Dennis yn arbenigo mewn ecoleg ucheldiroedd a mynyddoedd ac mae ei dîm ymchwil wedi astudio newidiadau yn y boblogaeth o rywogaethau’r pryfed allweddol yma mewn ymateb i newidiadau amgylcheddol a rheoli pori dros lawer o flynyddoedd yn ardaloedd tir uchel yng Nghymru a'r Alban.
Mae'r ymchwil ecolegol ar bryfed teiliwr gan Matthew yn cyfuno model o ddyfnder trwythiad priddoedd mawn, a gynhyrchwyd gan Andreas Heinemeyer o Sefydliad Stockholm, Prifysgol Efrog, gyda gwybodaeth am y nifer o bryfed teiliwr a gofnodwyd yn yr ardaloedd gwlypach a sychach o fawndir a gofnodwyd gan Matthew yn ei astudiaethau maes manwl o'r pryfed hyn ar draws mawndiroedd, a elwir yn orgorsydd.
Mae pryfed teiliwr (yn oedolion a larfa siacedledr) yn ffynnu mewn priddoedd gwlyb, mawnog a'u dwysedd yn gostwng a dosbarthiad daearyddol yn lleihau yn ystod cyfnodau o sychdwr haf, yn ôl y model efelychiad yn seiliedig ar ddata poblogaeth go iawn o safleoedd tir uchel sydd wedi eu hastudio.
Roedd y dair safle arbrofol yn cynnwys un ym Mynyddoedd y Berwyn sy'n ffurfio cefndeuddwr Llyn Efyrnwy yng Nghymru, ac sy’n cael ei rheoli gan yr RSPB. Ymestynnwyd y model efelychu i ysglyfaethwyr y pryf teiliwr a dangosodd effaith andwyol ar nifer o rywogaethau adar yr ucheldir, gan gynnwys cwtiad aur a phibydd y mawn, gan fod y pryfed yn rhan sylweddol o ddiet yr adar hyn, yn enwedig yn ystod y tymor bridio o fis Mai bob blwyddyn.
Hwyluswyd y cydweithio â goruchwyliwr NERC Yr Athro Chris Thomas, Prifysgol Efrog a James Pierce-Higgins, gynt o'r RSPB, gan gyllid Llywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Ymchwil a Menter rhwng Prifysgol Aberystwyth a Phrifysgol Bangor (Canolfan Ymchwil Integredig yn yr Amgylchedd Gwledig ").
Mae'r ymchwil yn awgrymu y gallai prosiectau mawr i adfer gorgorsydd sydd wedi diraddio ac erydu fod yn hollbwysig er mwyn sicrhau dyfodol poblogaethau adar sy'n bwysig yn rhyngwladol, ochr yn ochr â chyflenwadau dŵr a swyddogaeth hanfodol gorgorsydd fel storfa garbon.
Daeth Dr Dennis i'r casgliad: “Mae'r cyfuniad o ymdrechion ar draws sawl arbenigedd ymchwil wedi rhoi cipolwg ar ganlyniadau posib newid yn yr hinsawdd, pe bai hyn yn arwain at hafau sychach a chynhesach yn gyffredinol yn y mynyddoedd yng Nghymru ac mewn mannau eraill yn y DG.”