A yw math o frîd yn dylanwadu ar allyriadau methan gwartheg pori?
Gwartheg Duon Cymreig
20 Hydref 2014
Mae astudiaeth gan Brifysgol Aberystwyth sydd yn ymchwilio i rôl bridiau traddodiadol a modern o wartheg cig eidion o ran dylanwadu ar allyriadau methan, wedi ei chyhoeddi yn y cyfnodolyn PLOSONE.
Mae’r astudiaeth Traditional vs Modern: Role of Breed Type in Determining Enteric Methane Emissions from Cattle Grazing as Part of Contrasting Grassland-Based Systems ar gael yma.
Hon oedd yr astudiaeth gyntaf i fesur allyriadau methan ar gyfer gwartheg cig eidion sydd yn crwydro yn rhydd ac yn pori ar fathau cyffredin o laswelltir ar lawr gwlad ac yn yr ucheldiroedd.
Bu gwyddonwyr yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) yn casglu data o fustych o frîd croes modern sydd yn tyfu'n gyflym (croes Limousin), a brîd brodorol maint llai a mwy gwydn (Gwartheg Duon Cymreig) wrth bori rhygwellt parhaol iseldir ar Fferm Penglais yn Aberystwyth a thir pori cymysg yn yr ucheldir ar Fynyddoedd Elenydd, 540m uwchben lefel y môr.
Ar y cyfan, roedd unrhyw effeithiau o’r math o frîd yn gymharol fach o'i gymharu â dylanwad cyfunol y math o borfa a’r lleoliad.
Mae faint o fethan a gynhyrchir bob dydd yn is ar gyfer gwartheg yn yr ucheldir, tra bod allyriadau methan fesul uned cynnydd mewn pwysau byw yn is ar gyfer gwartheg ar dir isel oherwydd bod cyfraddau twf yn uwch ar y rhygwellt.
Dywed prif awdur yr astudiaeth, Dr Mariecia Fraser o IBERS, ecolegydd pori sy'n arbenigo mewn systemau ucheldirol; “Mi fydd y canlyniadau hyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynhyrchu ôl troed carbon mwy manwl ar gyfer systemau cynhyrchu cig eidion gwahanol. Mae'r glaswelltiroedd a geir ar fryniau ac ucheldiroedd y Deyrnas Gyfunol yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau ecosystem, fel bioamrywiaeth a chymeriad y tirwedd, sydd yn aml yn ddibynnol ar ffermio da byw.”
Mae gwartheg a defaid yn troi porthiant a bwydydd o ansawdd gwael i mewn i fwydydd y gellir eu bwyta gan bobl, ond mae cost amgylcheddol anochel i hyn o ran rhyddhau llygryddion.
Mae methan yn cyfrannu'n sylweddol at nwyon tŷ gwydr ac felly i newid hinsawdd fyd-eang. Amaethyddiaeth yw ffynhonnell tua 38% o holl allyriadau methan y Deyrnas Gyfunol, ac fe ddaw tua 85% o’r rheiny o dda byw yn torri gwynt.
Er taw cynhyrchu cig eidion ar borfa yw’r system fwyaf poblogaidd ar draws Ewrop, ychydig iawn o astudiaethau sydd wedi mesur allyriadau methan o wartheg sy'n pori.
Gallai gwahaniaethau ffisiolegol neu ymddygiad ddylanwadu ar allyriadau o fridiau traddodiadol a modern, yn ddibynnol ar natur y borfa a borir.
Cynhaliwyd yr astudiaeth fel rhan o ‘Improvements to the National Inventory: Methane'; prosiect ar y cyd ar draws y Deyrnas Gyfunol sy’n cael ei arwain gan IBERS.
Dywedodd arweinydd y prosiect, Dr Jon Moorby; “Mae'r data a gynhyrchwyd yn cryfhau'r sail dystiolaeth gyfyngedig ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol o ran strategaethau lliniaru ac addasu i newid yn yr hinsawdd o fewn systemau da byw bugeiliol.”
Ariannwyd y gwaith yma gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig y Deyrnas Gyfunol, Llywodraeth yr Alban, Adran Gogledd Iwerddon dros Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig, a Llywodraeth Cymru, fel rhan o Lwyfan Ymchwil Nwyon Tŷ Gwydr Amaethyddol y Deyrnas Gyfunol.
Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS)
Mae IBERS yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o enynnau a moleciwlau i organebau a’r amgylchedd.
Mae IBERS yn derbyn cyllid ymchwil o £10.5m gan y BBSRC i gefnogi ymchwil a yrrir gan genhadaeth tymor hir, ac mae’n aelod o Sefydliad Cenedlaethol y Biowyddorau. Mae IBERS yn elwa hefyd o gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru, DEFRA a’r Undeb Ewropeaidd.