Partneriaeth ymchwil â Nigeria

17 Rhagfyr 2014

Mae araith ‘Gweithio tuag at wella diogelwch bwyd ac iechyd yn Affrica’, wedi arwain at sylw sylweddol ar y teledu a radio yn Nigeria yn ddiweddar.
 
Traddodwyd yr araith gan yr Athro Luis Mur o IBERS a bwysleisiodd sut y gallai’r bartneriaeth newydd hon gyda Prifysgol Aberystwyth gynorthwyo  i gwrdd â'r heriau a brofir gan economi sydd yn datblygu yn  Nigeria.

Roedd yr Athro A J Mur yn ymweld â Polytechnig Ffederal Ado-Ekiti, yn Nigeria, ble arwyddwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth gan Prifysgol Aberystwyth ym mis Awst eleni.

Mae rhaglen ar y cyd eisoes ar y gweill gan ganolbwyntio ar ddatblygu Sorghum - sef grawnfwyd trofannol pwysig - mewn ardaloedd o dde Nigeria lle nad yw yn cael ei dyfu.

Mae'r prosiect yn profi i fod yn hynod llwyddiannus a bydd yn cael ei ymestyn i wella'r cyflenwad o’r ffynhonnell fwyd newydd hon gydol y flwyddyn yn y rhan yma o Nigeria.

Roedd ymweliad Yr Athro Mur yn anelu at gysoni meysydd ymchwil allweddol rhwng y ddau sefydliad, gyda ffocws penodol ar y gwaith ymchwil a gynhelir gan Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).

Dywedodd yr Athro Luis Mur " Mae galluoedd a'r brwdfrydedd y gwyddonwyr Nigeria yr wyfwedi eu cyfarfod wedi creu argraff fawr arnaf i. Mae'n amlwg y gallem ddysgu llawer oddi wrth ein gilydd.
Bydd y bartneriaeth gyda IBERS yn galluogi cyfuno adnoddau ac arbenigedd,  i sefydlu prosiectau i ddarparu atebion i broblemau o bwysigrwydd byd-eang – sef sicrhau cyflenwad bwyd da a phoblogaeth iach ".

Yn ei ddarlith, tanlinellodd yr Athro Mur sawl prosiect ymchwil ar y cyd newydd pellach, gan gynnwys:
• Shistosomiasis, y clefyd parasitig sy'n gyffredin yn Is-Sahara Affrica, a bydd yn cynnwys yr Athro Karl Hoffman a Dr Iain Chalmers
• Ymchwil i fapio Malaria sy'n cael ei arwain gan yr Athro Chris Thomas a Dr Donall Cross
• Nodi cyffuriau posibl o feddyginiaeth draddodiadol Nigeria dan arweiniad Dr Ifat Parveen.

Ychwanegodd Rheithor y Polytechnig Ffederal Ado-Ekiti Rheithor Dr. Taiwo Theresa Akande "Rydym yn hynod falch o fod yn gweithio gyda Phrifysgol Aberystwyth a gwerth y cyfraniadau y gallant eu gwneud at ein hymchwil. Yn yr amser bach ers i ni wedi llofnodi ein Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rydym eisoes wedi gwneud cynnydd mawr wrth ddylunio rhaglenni newydd a nodi pynciau ar gyfer datblygiad pellach. Rydym yn edrych ymlaen at bethau mawr yn y dyfodol! "