Rheolwr Busnes Pwllpeiran
![John Davies](/cy/ibers/news/archive/2014/april/John-Davies.jpg)
John Davies
30 Ebrill 2014
Mae John Davies wedi cychwyn yn ei swydd fel Rheolwr Busnes Llwyfan Ymchwil Ucheldir Pwllpeiran yn IBERS, Prifysgol Aberystwyth.
Bydd John yn gyfrifol am sefydlu a rheoli’r ganolfan newydd yn yr ucheldir uwchlaw Aberystwyth yng Ngheredigion.
Cefnogir y Llwyfan Ymchwil gan fuddsoddiad £3.2 miliwn gan y BBSRC (Cyngor Ymchwil Biotechnoleg a Gwyddorau Biolegol).
Mae John yn hanu o’r ardal. Cafodd ei addysgu yn Ysgol Gyfun Penweddig, Coleg Amaethyddol Gelli Aur a Choleg Amaethyddol Cymru yn Aberystwyth. Mae’n byw gyda’i wraig a’i deulu yn Rhydyfelin.
Mae John wedi meithrin cysylltiadau ardderchog gyda’r sector amaethyddol drwy ei swyddi blaenorol gyda’r Weinyddiaeth Amaeth, Pysgodfeydd a Bwyd yn Nhrawscoed, yna fel swyddog caffael da byw ar ran cwmni cydweithredol da byw, a chyfnod fel gwerthwr eiddo amaethyddol ac Arwerthwr.
Bu’n gweithio i Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yng Nghymru fel Ymgynghorydd Polisi am naw mlynedd, a dros y ddeuddeng mlynedd diwethaf bu’n Gyfarwyddwr ar Ganolfan Fwyd Cymru, yn darparu cymorth technegol arloesol i’r Diwydiant Bwyd-Amaeth yng Nghymru.
Mae John yn gyn Lywydd Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Cadeirydd Rhwydwaith Gwledig Cymru a Grŵp Bwyd-Amaeth Canolbarth Cymru; mae hefyd yn aelod o bwyllgor monitro’ Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru. Mae’n Gynghorydd Arbennig i Fenter Mynyddoedd Cambria.
Er bod yna ganolfan ymchwil ucheldir yn gwasanaethu’r Alban, Pwllpeiran fydd yr unig ganolfan Ymchwil Ucheldir bwrpasol yng Nghymru a Lloegr. Bydd yn darparu cyfle i ddatblygu catalydd unigryw i ysgogi adnoddau IBERS a darparwyr ymchwil eraill y DG i ddod o hyd i atebion i heriau sydd yn cynnwys:
- Systemau ffermio ecogyfeillgar a fydd yn darparu incwm cynaliadwy i ffermwyr.
- Dulliau o feincnodi prosesau cynhyrchu cynaliadwy a gwerthfawrogi bioamrywiaeth yn yr ucheldir.
- Cadwyni cyflenwi bwyd lleol cynaliadwy sy’n caniatáu olrhain cynnyrch o darddiad hysbys i’w cyflenwi i gwsmeriaid.
- Cynhyrchion â gwerth ychwanegol iddynt sy’n defnyddio datblygiadau cyfredol ym maes gwyddoniaeth i ganiatáu ffermwyr i ddarparu cynnyrch o safon uchel ar gyfer y gadwyn gyflenwi.
- Systemau cynhyrchu anifeiliaid sy’n lleihau eu hôl troed amgylcheddol drwy ymgorffori datblygiadau arloesol cyfoes mewn bwydo, rheoli a geneteg.
- Offer rheoli sy’n caniatáu i amaethyddiaeth yr ucheldir gael ei lunio a’i reoli mewn ffordd sy’n sicrhau buddiannau uchaf posib a chostau, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn cael eu lleihau.
- Sail tystiolaeth i gefnogi datblygu polisïau gwybodus a dilys.
Bu Pwllpeiran yn ganolfan ymchwil ers y 1930au, ac yn gweithio i wella hyfywedd ffermio ucheldiroedd Cymru.
Gyda phwyslais cynyddol ar ansawdd a tharddiad bwyd, a phwysau i reoli tir mewn modd sy’n sensitif i’r amgylchedd, mae yma rôl allweddol i’r wyddoniaeth i gefnogi amaethyddiaeth.
Dywedodd John Davies; “Rwy’n edrych ymlaen at yr her o ddatblygu Pwllpeiran ac i weithio gyda’m cydweithwyr academaidd a chysylltiadau ledled y sector wrth fynd i’r afael â heriau diogelu cyflenwadau bwyd, lleihau nwyon tŷ gwydr a diogelu bioamrywiaeth drwy wneud defnydd gwybodus a gwell o’r ucheldiroedd.”
Mae’r ucheldiroedd yng Nghymru yn cwmpasu 80,000 hectar, ac mae’r adnoddau naturiol hyn yn darparu gwasanaethau hanfodol gan gynnwys dŵr, bwyd, tanwydd, dal a storio carbon, cynefinoedd bywyd gwyllt, hafanau bioamrywiaeth, lliniaru llifogydd a mannau hamdden.