Hudo gan blanhigion
Dr Julie Hofer gyda Anthurium andraenum un o’r planhigion cyfareddol yng Ngardd Botaneg Prifysgol Aberystwyth
07 Mai 2013
Bydd digwyddiadau sy'n dathlu planhigion yn cael eu cynnal ledled y byd ar 18fed Mai, diolch i'r fenter hon dan arweiniad Sefydliad Gwyddoniaeth Planhigion Ewrop (EPSO). Yn Aberystwyth bydd staff o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth yn arwain y digwyddiad.
Nod y diwrnod yw hudo ac ennyn brwdfrydedd pawb am blanhigion a phwysigrwydd gwyddor planhigion ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth, garddwriaeth, bwyd, papur, pren, cemegau, ynni, a fferylliaeth. Mae rôl planhigion mewn cadwraeth amgylcheddol yn neges allweddol hefyd.
Bydd arddangosfeydd rhyngweithiol yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth a bydd tŷ gwydr Gerddi Botaneg y Brifysgol ar agor o 10:00 y bore hyd 4:00 y prynhawn. Gall ymwelwyr fynd ar daith dywys neu grwydro drwy'r tŷ gwydr eu hunain.
Dywedodd Dr Julie Hofer, Gwyddonydd Ymchwil yn IBERS a threfnydd y digwyddiad, "Mae planhigion yn sylfaenol i'n bodolaeth, gan roi aer i ni anadlu a bwyd i ni fwyta. Nid ffrwythau a llysiau yn unig chwaith, rwy’n cyfeirio at bron popeth rydym yn ei fwyta. Ni fyddai gennym gig eidion na chig oen heb laswellt a meillion, ni fyddai unrhyw sglodion heb datws, na bara heb rawnfwydydd.
“Ychydig iawn o ffynonellau bwyd sy’n bodoli heb gymorth planhigion. Ac nid dyna’r cyfan. Mae tanwydd, meddyginiaethau, deunyddiau adeiladu, ffibrau a phapur yn cael eu gwneud o blanhigion ac mae planhigion hefyd yn darparu gwasanaeth megis rheoli llifogydd, yn ogystal â gwella ein mannau hamdden. Maen nhw’n amhrisiadwy o bwysig".
Mae tua 250,000 o wahanol fathau o blanhigion sy’n blodeuo ar y ddaear, yn cynnwys rhai sy'n wirioneddol ryfedd a chyfareddol. Yn yr Ardd Botaneg gallwch weld, ac weithiau arogli, lili arum anferth sy'n arogli fel cnawd yn pydru, gan ddenu pryfed i weithredu fel peillwyr. Cewch hefyd weld planhigion cigysol sy'n bwydo ar bryfed, y perlysiau mwyaf sy’n blodeuo ( banana), planhigion sy'n dynwared wyau ieir bach yr haf sydd newydd eu dodwy, mimosa sensitif sy'n ymateb wrth i chi ei gyffwrdd, heb sôn am rai o'n hoff blanhigion fel coco a choffi.
Ychwanegodd Dr Hofer: "Mae planhigion yn hudolus. Rydym yn awyddus i rannu cyfrinachau’r byd planhigion gyda chynulleidfa ehangach, ac i drafod sut mae gwyddorau planhigion yn helpu i fynd i'r afael â’r heriau byd-eang, o ddiogelwch bwyd ac ynni. "Rydym yn gobeithio bydd y Diwrnod Chwilfrydedd mewn Planhigion yn ysbrydoli pobl i werthfawrogi pwysigrwydd planhigion ac i ddeall y berthynas rhwng planhigion a phoblogaeth iach. "
Bydd arddangosfeydd yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth yn cynnwys esblygiad grawnfwydydd a'u chwyn - gan gynnwys stori psychotoxins mewn hanes a diwylliant. Bydd yr arlunydd Becky Knight wrth law i annog ymwelwyr i beintio â phigmentau planhigion. Bydd arddangosfa arall yn tynnu DNA o blanhigion a thrafod sut mae cod genynnau DNA yn cael eu defnyddio wrth fridio planhigion.
‘Does dim angen archebu lle, dim ond galw draw yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth neu Ardd Botaneg y Brifysgol unrhyw bryd rhwng 10:00a.m- a 4:00p.m ar ddydd Sadwrn 18 Mai, 2013. Mae’r Ardd Botaneg wedi’i lleoli gyferbyn â phrif fynedfa campws Penglais. Mae parcio yn gyfyngedig iawn yn yr Ardd Fotaneg, felly cerddwch, dewch ar feic neu fws, neu parciwch ger Canolfan y Celfyddydau os gwelwch yn dda.