Ffermwyr yn edrych i’r dyfodol

Y parlwr godro cylchdro yn IBERS

Y parlwr godro cylchdro yn IBERS

07 Mai 2013

Gwelodd aelodau o gymdeithas Ffermwyr Dyfodol Cymru adnoddau ffermio o’r radd flaenaf a chlywed am ymchwil arloesol ym Mhrifysgol Aberystwyth yn ddiweddar wrth i Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) eu croesawu ar ymweliad ar ddydd Sadwrn 27ain Ebrill, 2013.

Cafodd yr ymwelwyr gyfle i ddysgu sut mae gwyddoniaeth sy’n seiliedig ar ymchwil gadarn a wnaed yn Aberystwyth yn cael ei ddefnyddio er budd amaethyddiaeth y dyfodol yng Nghymru.
Mae clwb Ffermwyr Dyfodol Cymru yn sefydliad lle mae pob aelod - a wahoddir i ymaelodi - naill ai wedi ennill gwobrau diwydiant neu academaidd neu wedi cael llwyddiant rhagorol o fewn amaethyddiaeth yng Nghymru. Felly, mae’n grŵp dylanwadol iawn ac yn edrych i’r dyfodol.

Cyflwynodd yr Athro Jamie Newbold, Cyfarwyddwr Ymchwil a Menter yn IBERS gyflwyniad byr ar yr ymchwil sy'n digwydd ar hyn o bryd o fewn IBERS a'r cyfleoedd hyfforddiant proffesiynol parhaus sydd ar gael drwy'r Partneriaethau Hyfforddiant Uwch (ATP). Nod ATP a ariennir gan BBSRC yw cryfhau sgiliau gwyddonol arbenigol mewn meysydd strategol pwysig i'r diwydiant bwyd-amaeth yn y DG. Gwneir hynny drwy hyfforddiant hyblyg, ôl-raddedig.
Dywedodd yr Athro Newbold "’Does gan ymchwil ynddo’i hun ddim budd: mae ond yn werthfawr i helpu ymateb i'r heriau sy'n wynebu'r diwydiant pan gaiff ei gymhwyso a’i ddefnyddio. "

O fewn y cyd-destun hwn amlinellodd yr Athro Newbold weithgareddau’r ATP mewn Amaethyddiaeth Fugeiliol sy’n cael eu cydlynu yn IBERS ac anogodd Ffermwyr Dyfodol Cymru i gynnig syniadau penodol ar y meysydd o hyfforddiant a fyddai’n werthfawr i’w busnes nhw.

Soniodd yr Athro Nigel Scollan am sefydlu Canolfan Ragoriaeth ar gyfer Ffermio yn y DG, sydd wedi ei leoli o fewn IBERS. Mae ffocws y fenter hon, sy'n cynnwys nifer o bartneriaid, yw cysylltu pob sector o'r gadwyn cyflenwi bwyd â’i gilydd er mwyn cyfnewid gwybodaeth. Pwrpas hyn yw caniatáu i'r diwydiant fynd i’r afael â heriau amaethu dwys cynaliadwy.

Yn ystod y prynhawn teithiodd yr ymwelwyr i'r de o Aberystwyth i ymweld â Fferm Trawsgoed lle bu’r Athro Will Haresign, Cyfarwyddwr y Ffermydd a Huw Morris, Rheolwr Ffermydd IBERS yn dangos y gwaith cydymffurfio amgylcheddol diweddar a wnaed yn yr uned laeth. Roedd cyfle hefyd i weld y parlwr godro cylchdro newydd, a gwblhawyd yn ddiweddar yn gweithio.

Mae'r parlwr godro yn cynrychioli buddsoddiad o dros £1 miliwn gan BBSRC. Dywedodd yr Athro Haresign "Roedd yn wych cael y cyfle i gyfnewid barn a syniadau gyda grŵp mor ddylanwadol o ffermwyr a oedd yn dangos cryn ddiddordeb. Mae'r parlwr cylchdro 50-pwynt newydd yn cynnwys offer electronig i adnabod y gwartheg. Mae hyn yn hwyluso bwydo dwysfwyd gan gyfrifiadur i bob buwch a chofnodi cynhyrchu llaeth cyfrifiadurol pob tro fyddwn ni’n godro.
"Mae hyn yn rhoi gwybodaeth mwy manwl a chywir i ni ar gyfer rheoli’r fuches, ac mae’n gwella effeithlonrwydd llafur yr holl waith godro yn sylweddol."

Dywedodd David John, Cadeirydd Ffermwyr Dyfodol Cymru, "Nod Ffermwyr Dyfodol Cymru yw gweld technoleg ac arferion gorau yn cael eu defnyddio ac roedd hyn yn amlwg yn ystod ein hymweliad. Cafodd y pwyslais ar wneud y mwyaf o laswellt, dderbyniad da ac mae’n neges sy'n allweddol ar gyfer dyfodol proffidiol a chynaliadwy.

"Mae’r aelodau wedi cael argraff dda o’r ymchwil a wnaed ar y fferm a sut y bydd yn llunio ein cynlluniau maeth ni ar eu ffermydd eu hunain yn y dyfodol. Rydym wedi ein hysbrydoli gan y buddsoddiad a’r ymrwymiad i gynhyrchu llaeth. Nawr mae angen sicrhau bod gwaith ymchwil a datblygu yn parhau er mwyn gwella effeithlonrwydd, proffidioldeb a chynaliadwyedd ein ffermydd. "

Darlledwyd eitem o ymweliad Ffermwyr Dyfodol Cymru ag IBERS ar raglen 'Ffermio' ar S4C ar ddydd Llun 6 Mai am 9.15pm.