Hadau gobaith
Ben Sampson a Dr Elaine Jensen ger y panel arddangos
05 Mehefin 2013
Mae panel arddangos newydd a ddadorchuddiwyd gan wyddonwyr o Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth a Swyddogion Cadwraeth Cyngor Sir Ceredigion ym Mharc Natur Penglais yn ddiweddar yn dangos bod y warchodfa nid yn unig yn lloches i fywyd gwyllt ac yn le tawel i bobl, ond bod gan y planhigion yna botensial pwysig ar gyfer ymchwil.
Esboniodd Ben Sampson, Swyddog Cadwraeth Cyngor Ceredigion: "Mae Coedwig Penglais wedi darparu hafan i fywyd gwyllt ac yn seibiant tawel o fwrlwm y dref ers cenedlaethau, ond efallai bod ei ddefnydd fel adnodd ar gyfer ymchwil yn llai adnabyddus. Diolch i'n cydweithrediad ag IBERS gallwn weld sut y gallai rhai o'r planhigion gwyllt ar drothwy’n drws helpu cymdeithas mewn ffyrdd newydd.
"Mae hefyd wedi bod yn wych i gryfhau'r cysylltiadau rhwng Parc Natur Penglais a’n cymdogion, y Brifysgol, wrth gydweithio ar y paneli gwybodaeth newydd."
Ychwanegodd Dr Elaine Jensen, gwyddonydd yn IBERS: "Mae’r planhigion sydd i’w gweld yn y Parc yn cynnwys meillion a chlychau'r gog. Gallwn ynysu cemegau o'r enw isoflavonoids sydd â nodweddion estrogenig o feillion, a gellir eu defnyddio i drin symptomau diwedd y mislif. Mae hadau clychau'r gog yn cynnwys nifer o gyfansoddion biolegol actif, a gall rhai o'r rhain gael eu defnyddio mewn colur. "
Mae'r posibilrwydd o ddefnyddio biomas planhigion yn lle tanwydd ffosil, ar gyfer gwneud cynnyrch fel tanwydd hylif, ynni ar gyfer gwres a phŵer, plastigau, a chemegau, a hynny mewn ffordd adnewyddadwy a chynaliadwy, yn faes cynyddol bwysig mewn cyfnod o newid hinsawdd. Mae’r ymchwil a wneir yn IBERS yn dod â ni’n nes at gyflawni hynny.
"Mae rhygwellt yn tyfu yn y Parc hefyd. Mae'n gyfoethog mewn siwgr, y gellir ei droi'n danwydd hylif ar gyfer cludiant, neu gynhyrchion megis bioplastig. Mae yna hefyd llawer o fathau gwahanol o ffyngau diraddiol yma. Mae gennym ddiddordeb yn yr ensymau maent yn eu cynhyrchu i dorri lawr y bondiau cemegol gwydn sy'n dal planhigion coediog gyda'i gilydd. Gall yr ensymau hyn gynhyrchu blociau adeiladu syml y gallwn eu defnyddio i lunio cynhyrchion newydd megis tanwydd cludiant a phlastig" eglurodd Elaine.
Mae Parc Natur Penglais, a nodwyd yn Warchodfa Natur Leol yn swyddogol yn 1995, yn cael ei reoli gan Gyngor Sir Ceredigion mewn partneriaeth â grŵp cymorth lleol gweithgar. Derbyniodd gydnabyddiaeth fel yr unig warchodfa drefol Dyn a Biosffer yng Nghymru, enillodd Wobr Tywysog Cymru yn 1993 ac mae wedi dal Gwobr Gymunedol Baner Werdd ers 2011.
Er y gall deimlo'n wyllt, mae angen gwaith i gadw'r warchodfa mor arbennig. Yn y coetir, teneuwyd coed er mwyn cael mwy o olau i lawr y goedwig. Atgyweiriwyd waliau cerrig sych hynafol a gwellwyd y llwybrau. Lle'r oedd coed wedi gwywo neu gwympo, gadawyd pentyrrau o foncyffion a phrysgwydd er mwyn annog infertebra a ffyngau i ffynnu, ac mae nythod mewn blychau yn rhoi cartref i adar fagu rhai bach.
Mae mannau agored y warchodfa yn gymorth i gynyddu amrywiaeth y bywyd gwyllt ac mae’n frwydr barhaus i’w atal rhag cael ei orchuddio gan brysgwydd a choed.
Mae’r gwanwyn yn amser arbennig i ymweld, gan fod y brigau yn llawn o adar a’r coetir yn garped o glychau'r gog, ond mae rhywbeth i'w weld yno gydol y flwyddyn.
Gwnaed fframiau derw'r paneli gan grefftwyr lleol ac fe’u hariannwyd gan Biothechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC).