Darganfod cath fawr

Max Blake a Lyncs o Ganada

Max Blake a Lyncs o Ganada

25 Ebrill 2013

Mae ailddarganfod anifail dirgel mewn storfa tanddaearol amgueddfa yn profi bod 'cath fawr' nad yw'n frodorol wedi crwydro cefn gwlad ar droad y ganrif ddiwethaf.

Max Blake myfyriwr PhD , yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol, a'r Gwyddorau Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth  ailddarganfyddodd y gath benodol yn yr astudiaeth, ymysg cannoedd o filoedd o sbesimenau yn Amgueddfa ac Oriel Gelf Bryste.

Roedd Max wedyn yn rhan o dîm aml-ddisgybledig o wyddonwyr o Brifysgolion Aberystwyth, Southampton, Bryste a Durham a ddadansoddodd sgerbwd a chroen yr anifail. Casgliad yr ymchwil oedd mai lyncs o Ganada oedd y creadur  ysglyfaethwr cigysol ac roedd mwy na dwywaith maint cath domestig.

Mae'r ymchwil, a gyhoeddwyd yn y cylchgrawn Historical Biology yn cadarnhau mai’r  anifail hwn yw’r enghraifft gynharaf o gath fawr estron i grwydro’n rhydd yng nghefn gwlad y DG.

Mae'r tîm ymchwil yn dweud bod hyn yn dystiolaeth bellach i wrth- brofi’r rhagdybiaeth boblogaidd bod cathod gwyllt wedi’u rhyddhau i gefn gwlad y DG yn dilyn cyflwyno Deddf Anifeiliaid Gwyllt 1976. Cyflwynwyd y Ddeddf i fynd i’r afael â’r ffasiwn gynyddol i gadw anifeiliaid anwes egsotig ond a allai fod yn beryglus.

Mae'r academyddion yn credu bod cathod mawr gwyllt wedi byw yng nghefn gwlad yn llawer cynt, nail ai am eu bod wedi dianc neu hyd yn oed eu rhyddhau’n fwriadol. Nid oes unrhyw dystiolaeth fod anifeiliaid o'r fath wedi gallu bridio yn y gwyllt.
Dangosodd yr ymchwil i gofnodion yr amgueddfa bod yr anifail yn wreiddiol wedi cam-labelu gan guraduron Edwardaidd yn 1903 fel lyncs Ewrasia – perthynas agos i lyncs Canada.

Roedd y cofnodion hefyd yn dangos bod y lyncs wedi’i saethu gan dirfeddiannwr yng nghefn gwlad Dyfnaint yn y 1900au cynnar, ar ôl iddo ladd dau gi.

Eglurodd Max Blake, gwyddonydd IBERS "Er bod sbesimenau eraill o gathod estron wedi’u darganfod mewn gwahanol leoliadau yn y DG, y lyncs hwn yw'r unig un sydd yn sylweddol hŷn na dyddiad Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976.

"Cyhoeddir papurau a datganiadau sy’n disgrifio darganfod rhywogaeth heb ei nodi mewn amgueddfeydd yn aml , ond mae’r darganfyddiad hwn o sampl heb ei gydnabod yn flaenorol, yn cael effaith sylweddol ar ddirgelwch diddorol ."

Mae'r ymchwilwyr yn nodi yn eu papur bod lyncs  Ewrasiaidd yn bodoli yn y gwyllt gannoedd o flynyddoedd yn ôl, ond mae bron yn sicr wedi diflannu erbyn y 7fed ganrif. Mae dadansoddiad labordy o esgyrn a dannedd y sbesimen  o Fryste yn cadarnhau ei fod wedi cael ei gadw mewn caethiwed yn ddigon hir i golli dannedd yn ddifrifol ac i ddatblygu plac cyn iddo naill ai dianc neu gael ei ryddhau yn fwriadol i'r gwyllt. Mae dadansoddiad DNA o flew’r lyncs wedi profi’n amhendant, o bosibl oherwydd bod cemegau wedi eu defnyddio ar y croen yn ystod y broses stwffio.

Dywedodd Julie Finch, Pennaeth Amgueddfeydd, Orielau ac Archifau Bryste, "Mae Amgueddfa Orielau ac Archifau Bryste yn falch o fod yn rhan o'r ymchwil arloesol hwn, sydd nid yn unig yn tynnu sylw at bwysigrwydd ein casgliadau gwyddoniaeth, ond hefyd yn  sefydlu ach ein lyncs 100-mlwydd ac yn ychwanegu at ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth o gathod mawr yn y DG. "

Mae'r lyncs yn awr i’w weld yn gyhoeddus yn yr amgueddfa.