Côr y Wîg ar drothwy Gwanwyn
Bocs Nythu
08 Ebrill 2013
Teithiodd criw o Science Café BBC Radio Wales i Brifysgol Aberystwyth yr wythnos hon i ddarganfod pam fod adar yn canu cymaint yn y gwanwyn - a phwy maen nhw’n canu amdano.
Wrth wrando ar yr adar yng Nghoedwig Penglais ar dir y Brifysgol, esboniodd Dr Rupert Marshall, darlithydd mewn ymddygiad anifeiliaid, fod gan y gân ddau bwrpas - mae’n fodd o amddiffyn ac yn atyniad "Mae adar yn canu caneuon i amddiffyn eu tiriogaeth yn erbyn tresmaswyr, ac i ddenu cymar".
A ydynt yn defnyddio'r un gân ar gyfer y ddau bwrpas? "Po fwyaf cymhleth y gân, y mwyaf tebygol yw hi ei bod wedi anelu at ddenu adar benywaidd -mae rhai adar, fel y penddu yn canu caneuon o ddau hanner: un ar gyfer gwrywod, a’r llall ar gyfer benywod".
Roedd gan Adam Walton, cyflwynydd y sioe, hefyd ddiddordeb mewn cynrychiolaeth weledol cân neu sainagram. Mae'r lluniau, sy'n edrych yn dra artistig, yn caniatáu i wyddonwyr ddadansoddi cân yn fanwl: pa mor uchel a pha mor hir yw pob chwiban, tril a nodyn? Maen nhw’n hanfodol yn yr ymchwiliad parhaus i effaith y sŵn a wneir gan ddyn ar yr amgylchedd acwstig: gall bysiau gael eu gweld yn ogystal â’u clywed ond efallai bydd angen i adar addasu eu hymddygiad er mwyn cadw i fyny.
"Mae rhai adar yn canu ar draw uwch mewn ardaloedd swnllyd" meddai Dr Marshall. "Ond maen nhw hefyd yn newid arddull eu cân - fel siarad mewn adeilad sy’n adleisio'r, mae adar y ddinas yn addasu eu cân i'w hamgylchedd"
Gyda 100 o flychau nythu i’w monitro fel rhan o'i ymchwil,mae Dr Marshall yn croesawu cymorth gan ei fyfyrwyr. Esboniodd "Mae gwybod pan fo'r adar lleol yn dechrau dodwy wyau yn ein helpu i adnabod tueddiadau tymor hir a newidiadau .
"Gallwn hefyd ganolbwyntio ein sylw ar bob nyth ar adegau penodol yn y cylch bridio - mae'n rhyfeddol pa mor gyflym y gallan nhw ddatblygu: o wy newydd ei ddodwy i gyw yn hedfan mewn cwta pedair wythnos.”
Mae Science Café yn cael ei ddarlledu ar BBC Radio Wales ddydd Mawrth 9 Ebrill (6.30pm), a’i ailadrodd Ddydd Sul 14eg am 6.30, neu cewch wrando eto drwy wefan y rhaglen: http://www.bbc.co.uk/programmes/b01rt1sg
I gafod mwy am ein graddau mewn ymddygiad anifeiliaid a sŵoleg edrychwch ar ein gwefan
Am ragor o wybodaeth am ymchwil Dr Marshall ymchwil, ewch i'w gwefan: http://users.aber.ac.uk/rmm/