Partneriaeth yw’r allwedd i gynhyrchu bwyd cynaliadwy
Yr Athro Nigel Scollan yn siarad yn y gynhadledd
04 Chwefror 2013
Dyna oedd y thema ganolog y trafodaethau mewn cynhadledd arloesol yn Birmingham, a drefnwyd gan y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Ffermio yn y DG a Dyfodol Ffermio (CEUKF/FF) mewn partneriaeth â'r Bwrdd Datblygu Amaeth a Garddwriaeth (AHDB ) yr wythnos diwethaf.
Roedd y gynhadledd a drefnwyd gyda chefnogaeth y Biotechnology and Biological Sciences Research Council (BBSRC) a’r Biosciences Knowledge Transfer Network yn dwyn ynghyd gwyddonwyr, ffermwyr, cynhyrchwyr bwyd, manwerthwyr a llunwyr polisi i rannu'r wybodaeth ddiweddaraf.
Canolbwyntiodd trafodaethau’r gynhadledd ar y cynnydd sydyn sy’n digwydd wrth fesur, meincnodi a gyrru gwelliannau ar draws y dangosyddion perfformiad allweddol megis gollyngiadau nwyon tŷ gwydr, defnydd ynni a dŵr, defnydd tir ac effaith bioamrywiaeth.
Y gynhadledd oedd y cyntaf o'i fath i ganolbwyntio.n gyfan gwbl ar fesuriadau newydd ar gyfer amaethyddiaeth gynaliadwy, ac i ymgynnull gwybodusion blaenllaw o’r diwydiant ochr yn ochr â gwyddonwyr.
Mae pwysau twf y boblogaeth, newid hinsawdd a’r dirywiad mewn adnoddau naturiol yn arwain at ymgyrch fyd-eang ar gyfer 'dwysáu cynaliadwy' mewn amaethyddiaeth. Ond mae angen offer a mentrau newydd i fesur a chymharu cynhyrchiant, effeithlonrwydd defnyddio adnoddau ac effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu ffermio a bwyd er mwyn cyflwyno'r newid hanfodol hwn. Neu, yng ngeiriau un siaradwr "Mae'n rhaid ei fesur er mwyn ei reoli".
Dim ond drwy gydweithio clos datblygu phartneriaethau rhwng gwyddonwyr, diwydiant a'r Llywodraeth, mae gobaith o gysoni a chyfeirio’r ymgyrch i gyflawni’r targedau cynaladwyedd a chynhyrchu cymhleth ar draws sectorau cynnyrch a systemau ffermio amrywiol.
Dywedodd Cadeirydd CEUKF, yr Arglwydd Curry o Kirkharle: "Mae'r ystod eang o fentrau a amlygwyd yn y gynhadledd hon, a'r diddordeb enfawr a grëwyd ymhlith cynrychiolwyr o'r DG a thramor, yn dangos yr angen dybryd am gydweithio ar draws y DG i ddiffinio, meincnodi a gyrru gwelliannau mewn cynhyrchu effeithlon a chynaliadwy. "Mae CEUKF yn cymryd rhan blaenllaw fel canolfan er mwyn i ddiwydiant a gwyddoniaeth gydweithio gyda'i gilydd i rannu arbenigedd a gwybodaeth yn y maes hwn.
"Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae CEUKF wedi ehangu i gynnwys yr arbenigedd trosglwyddo gwybodaeth ac ymchwil blaenllaw o bob cwr o'r DG. Gyda chefnogaeth Waitrose, mae partneriaid CEUKF bellach yn cynnwys IBERS-Aberystwyth, NIAB / TAG, AFBI, SRUC a Phrifysgol Harper Adams. "Ein nod yn y pen draw yw clustnodi a hyrwyddo’r arfer gorau mewn cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy ac effeithlon ymysg ffermwyr y DG, drwy arloesi a throsglwyddo gwybodaeth ar dechnoleg, systemau cynhyrchu a rheoli fferm."
Dywedodd yr Athro Ian Crute, Prif Wyddonydd yr AHDB, un o gyd-noddwyr y gynhadledd: "Mae'r gynhadledd hon yn dangos yn union faint sy'n cael ei wneud ar draws y gadwyn cyflenwi amaethyddol i nodi ble a sut mae'n bosibl lleihau effeithiau amgylcheddol cynhyrchu bwyd tra’n parhau i ymateb i'r galw cynyddol am gynnyrch diolgel o ansawdd uchel .
"Er hyn, roedd y gynhadledd hefyd yn amlygu faint mwy sydd i'w wneud cyn y bydd yn bosibl bod yn hyderus wrth gymharu effeithiau amgylcheddol systemau cynhyrchu amrywiol mewn ardaloedd gwahanol iawn. Nid oes ateb hawdd wrth geisio cyfateb yr effeithiau ar bethau fel defnydd o ddŵr, allyriadau nwyon tŷ gwydr, tirweddau gwerthfawr a chadwraeth bywyd gwyllt. Wrth benderfynu newid mae galw am ddealltwriaeth a dadansoddiad o’r pethau sy’n rhaid gwneud er mwyn i ffermwyr a chynhyrchwyr fanteisio i’r eithaf ar y camau hynny ond mewn modd sy'n briodol i'w sefyllfa a’u marchnadoedd lleol.
"Tanlinellodd y gynhadledd bwysigrwydd hanfodol cydweithio rhwng cynhyrchwyr, gwneuthurwyr a manwerthwyr gan dynnu ar y wybodaeth wyddonol orau sydd ar gael. Nid defnyddio geiriau allweddol i greu stori dda er mwyn marchnata barn gref yw hanfod cynaladwyedd. Mae’r cyfan yn ymwneud â mesur, dadansoddi a chnoi cil ar ffeithiau sydd weithiau’n annymunol.”