I’w ryddhau yn syth
Oni heuir ni fedir
16 Ionawr 2013
Daw rhwydwaith nodedig o gynhyrchwyr, ymchwilwyr, gwerthwyr a llunwyr polisi ynghyd yr wythnos hon i drafod a rhannu gwybodaeth broffesiynol ar sut orau i fesur cynnydd tuag at yr angen i ddarparu bwyd maethlon a fforddiadwy tra’n lleihau effeithiau amgylcheddol andwyol.
Cynhelir y gynhadledd ‘Producing more from less – new metrics for sustainable agriculture’ yn Birmingham 16-17 Ionawr gan Ganolfan Rhagoriaeth Ffermio’r Deyrnas Gyfunol (The Centre for Excellence in UK Farming - CEUKF) a’r Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (Agriculture and Horticulture Development Board - AHDB).
Gyda her fyd-eang newid hinsawdd a’r angen i wella effeithlonrwydd y defnydd o adnoddau, mae diddordeb yn cynyddu ynglŷn â sut i gymharu â gostwng effaith amgylcheddol systemau cynhyrchu amaeth tra’n ateb y galw am fwyd fforddiadwy, diogel a maethlon. Cydnabyddir bod hyn ond yn bosibl wrth gydweithio ar draws y gadwyn fwyd.
Bydd dros 100 o gynadleddwyr yn edrych ar waith cyfredol ar lefel genedlaethol a rhyngwladol, yn rhannu barn ac yn hyrwyddo cysondeb mewn cyfres o sesiynau yn ystod y gynhadledd ddeuddydd.
Dywedodd yr Athro Nigel Scollan, ar ran y tîm sy’n trefnu’r gynhadledd: “Dyma gyfle ardderchog i ddod ag ymarferwyr ac arweinwyr y maes ynghyd i gyfeirio’n gwaith wrth gytuno ar y ffordd orau o fesur cynaladwyedd cyflenwad gwahanol fwydydd, o gynhyrchu ar y fferm drwy’r gadwyn fwyd hyd at y cwsmer”.
Pwysleisiodd Ian Crute, Prif Wyddonydd AHDB sydd hefyd ar y tîm trefnu: “Nid geiriau cynnes a straeon da sy’n caniatáu i danlinellu a marchnata yw hanfod cynaladwyedd. Mae’r cyfan yn ymwneud â mesuriadau, dadansoddi a chnoi cil ar ffeithiau sydd weithiau’n annymunol, â’r parodrwydd i newid cyfeiriad. Mae diwydiant bwyd y DG mewn lle da i arwain y ffordd ac rwy’n disgwyl i’r gynhadledd hon fod yn gatalydd i sbarduno cytundeb ar y ffordd orau ymlaen.”
Mae’r siaradwyr fydd yn bresennol yn cynnwys:
- Pierre Gerber – Sefydliad Bwyd ac Amaeth y Cenhedloedd Unedig
- Tim Benton - Hyrwyddwr Digelwch Cyflenwad Byd Eang BBSRC DG
- Ian Crute - AHDB – Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth
- Jonathan Thomas - Leatherhead Food Research
- Kathleen Lewis – Prifysgol Hertfordshire
- Jonathan Hillier – Prifysgol Aberdeen
- Bob Rees – Coleg Prifysgol Gwledig yr Alban
- Alberto Garrido – Prifysgol Politechnig Madrid
- Caroline Drummond - LEAF (Linking Environment and Farming)
- Ray Keatinge - DairyCo
- Eileen Wall – Coleg Prifysgol Gwledig yr Alban
- Markus Frank - BASF Group, SE
Cynhelir y gynhadledd rhwng 2 y prynhawn ar 16 Ionawr a 1 y prynhawn ar 17 Ionawr yn The Best Western Plus Manor Hotel, NEC, Birmingham, CV7 7NH. Bydd cyflwyniadau a gwybodaeth bellach ar gael ar wefan CEUKF yn dilyn y gynhadledd.