Arolwg Busnes Fferm yn cyhoeddi’r Llyfryn Incwm Ffermydd diweddaraf ar ei 75fed pen-blwydd
02 Rhagfyr 2011
Mae’r rhifyn hwn yn un arbennig – mae’n nodi 75fed pen-blwydd yr Arolwg ac mae’n cynnwys gwybodaeth allweddol i helpu ffermwyr Cymru baratoi ar gyfer newidiadau yn y Polisi Amaeth Cyffredinol (CAP).
Ac yntau’n cael ei gyhoeddi gan Uned yr Arolwg Busnes Fferm yn IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth, mae’r Llyfryn wedi’i seilio ar yr Arolwg llawn o Fusnesau Fferm sy’n cael ei gyllido bob blwyddyn gan Lywodraeth Cymru ac yn cynnwys 550 o ffermydd yng Nghymru.
Wrth siarad cyn cyhoeddi’r llyfryn, dywedodd Tony O’Regan, Cyfarwyddwr yr Arolwg Busnes Fferm: “Mae’r llyfryn hwn wedi ei anelu at roi offeryn meincnodi defnyddiol yn nwylo ffermwyr ac mae’n cynnwys yr wybodaeth ariannol a ffisegol ddiweddaraf ar gyfer y prif fathau o ffermydd yng Nghymru.
“Wrth i newidiadau yn y Polisi Amaeth Cyffredinol (CAP) nesu, y gobaith yw y bydd yn ddefnyddiol a llawn gwybodaeth wrth helpu ffermwyr i addasu i amgylchiadau economaidd newydd.”
Mae’r llyfryn yn cynnwys adrannau am Wybodaeth Fferm Gyfan, Maint Elw Crynswth a Chost Cyfan Cynhyrchu.
- Mae’r adran am Wybodaeth Fferm Gyfan yn cyflwyno manylion am lefelau cynnyrch, mewnbwn ac elw, yn ogystal â mantolen, gwybodaeth ffisegol ac amrywiaeth ddewisol o feini prawf perfformiad. Yn wahanol i drefn arferol yr Arolwg o gyflwyno canlyniadau, dilëwyd mewnbynnau tybiedig fel gwerth rhent tir sy’n eiddo i ffermwyr a gwerth llafur di-dâl. Ond mae cost cyllid wedi eu cynnwys, fel bod y ffigurau’n cyfleu’r union gostau.
- Mae’r adran Maint Elw Crynswth yn dangos incwm a chostau manwl ar gyfer pob menter ac hefyd yn cyfleu’r maint elw crynswth ar gyfer mentrau eidion, defaid a llaeth.
- Mae’r adran am Gost Cyfan Cynhyrchu yn dangos y gost fesul uned o gynhyrchu kg/litr o gynnyrch trwy ddosbarthu costau cyffredinol ar gyfer y mentrau penodol ar y fferm. Mae’r tair adran yma wedi eu cyflwyno mewn ffordd sy’n gymorth i feincnodi.
Ychwanegodd Tony O’Regan: “Mae’r canlyniadau’n tynnu sylw at y gwahaniaethau sylweddol rhwng effeithiolrwydd ‘fferm gyfartalog’ a’r traean sy’n perfformio orau. Mae hynny’n cynnwys gwybodaeth fesul hectar effeithiol, fesul anifail, fesul kilo o fewnbwn gyda chig oen ac eidion a fesul litr o laeth. Er enghraifft, gyda ffermydd defaid tir uchel, roedd yr elw fesul hectar effeithiol ddwywaith yn uwch nag yn y ffermydd cyfartalog yn y sampl.
“Mae angen rhoi sylw arbennig i gyfraniad y Taliad Sengl (SFP) a sybsidïau eraill at elw ac allbwn cyfan ffermydd unigol, ar ôl costau rhent a chyllid, fel bod y darllenydd yn gallu rhagweld effaith botensial unrhyw ddiwygio yn y CAP.
“Er enghraifft, roedd y Taliad Sengl, Tir Mynydd a thaliadau anuniongyrchol eraill (Cynlluniau Organig, ESA, Tir Gofal etc) wedi cyfrannu, ar gyfartaledd, tua 40% o allbwn ffermydd defaid tir uchel a 140% o’u helw.”