Bydd adnoddau newydd yn cynnig ymchwil a chefnogaeth allweddol i ffermwyr llaeth Cymru
Y parlwr godro rotari newydd
25 Tachwedd 2011
Bydd y sector amaethyddol yn Ffair Aeaf Cymru yr wythnos nesaf yn Llanelwedd yn cael clywed sut y mae IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth yn adeiladu adnoddau llaeth newydd i gefnogi datblygiadau’r dyfodol yn y diwydiant llaeth yng Nghymru.
Mae’r parlwr godro rotari’n cynnwys y dechnoleg ddiweddaraf ac mae’n gyfleuster hynod o effeithiol a fydd yn torri’n ôl ar lafur a chostau ac yn cynnig patrwm o ran safonau amgylcheddol.
Eleni, thema’r brecwast blynyddol sy’n cael ei gynnal yn y Ffair Aeaf gan IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – yw ‘Dyfodol Positif i Ddiwydiant Llaeth Cymru? Pa rôl sydd gan IBERS?’
‘Adnodd o bwys’ i ffermio llaeth yng Nghymru
“Mae’r parlwr godro newydd yn enghraifft berffaith o gyfraniad IBERS,” meddai Cyfarwyddwr y Sefydliad, yr Athro Wayne Powell. “Bydd y dulliau yr ydym yn eu datblygu a’r wybodaeth yr ydym yn ei chasglu yn helpu’r diwydiant llaeth yng Nghymru i gystadlu yn y dyfodol.
“Mae hwn yn adnodd o bwys i gynnal ffermio llaeth yng Nghymru. Mae’n gyfleuster sydd â chynaladwyedd yn ganolog iddo!”
Bydd ymchwil sy’n cael ei wneud yn y parlwr newydd yn cynnig gwybodaeth werthfawr a syniadau newydd ar gyfer ffermwyr llaeth yng Nghymru a thrwy’r Deyrnas Unedig.
Mae’r brecwast, sy’n cael ei gynnal am 8.30 ar ail ddydd y Ffair, yn Hafod a Hendre, yn rhan o ddau ddiwrnod llawn o weithgaredd ar stondin IBERS lle bydd arbenigwyr ar gael i egluro rhagor am y ffordd y mae gwaith ymchwil y Sefydliad yn cynnig cymorth ymarferol i ffermwyr Cymru ac yn cyfrannu at les yr economi a chymdeithas.
Yn eu plith bydd gwyddonwyr o raglen bridio ceirch IBERS, sy’n arwain y byd. Mae amrywiaethau newydd o’r cnwd yn cael eu datblygu gyda lefelau uwch o’r cynhwysyn gwrth-golesterol beta glwcan. Mae ceirch yn gnwd arbennig o addas ar gyfer ardaloedd fel Cymru.
Ar y stondin hefyd, mae IBERS yn cynnal cwis medli gyda chwestiynau’n gysylltiedig â nifer o brosiectau sy’n ymwneud â chadwyn gyflenwi ffermydd. Mae’n gyfle i ennill basged Nadolig yn llawn o gynnyrch Cymreig, wrth brofi eich gwybodaeth am ddadansoddi pridd, cnydau porthiant a mathau bridio defaid.
Gan ddefnyddio blociau adeiladu plant bach a thechnoleg cyffwrdd-sgrîn mae gan yr arddangosfa rywbeth ar gyfer pob teulu fferm a’r gobaith yw y bydd yn dod â rhai o brosiectau ymchwil a datblygu IBERS yn fyw, gan gynnwys PROSOIL, SLP gwerthuso cynhyrchu cig oen cynaliadwy a QUOATS.
RHAGOR O WYBODAETH AM Y PARLWR NEWYDD A BRECWAST IBERS YN Y FFAIR AEAF
Sut y bydd y parlwr yn helpu ffermwyr Cymru
Mae’r buddsoddiad gwerth £1 miliwn yn digwydd yn Fferm y Lodge yn Nhrawscoed ac mae disgwyl y bydd yn gyflawn yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Fe fydd y cyfleusterau godro ac oeri llaeth a’r sied giwbicl hefyd yn ychwanegiad gwerthfawr at adnoddau ymchwil a dysgu yn IBERS.
Gan ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf, bydd y cyfarpar yn caniatáu i wyddonwyr gofnodi cynnyrch llaeth pob buwch unigol a bwydo pob un gyda bwydydd ychwanegol gwahanol.
Bydd oriel wylio’n rhoi cyfle i staff, myfyrwyr ac ymwelwyr eraill weld y parlwr yn gweithio – ynghyd â gwybodaeth a fydd ar gael bob dydd am berfformiad y gwartheg, bydd hyn yn cefnogi addysgu, dysgu a throsglwyddo gwybodaeth.
Dyna sut y gall y parlwr newydd ddangos y ffordd i ffermio llaeth yng Nghymru:
- Effeithiolrwydd – bydd yr offer newydd yn torri’n ôl ar gostau llafur ac yn cwrdd â’r gofynion cyfreithiol amgylcheddol diweddaraf. Bydd yn godro rhagor o warthog yn gynt – dyw’r cyfleusterau presennol yn ffermydd IBERS ddim wedi bod yn ddigonol ar gyfe maint y fuches.
- Arbedion costau a llafur – bydd godro yn y parlwr newydd yn cymryd hanner yr oriau gwaith o’i gymharu â’r drefn bresennol.
- Arbedion ynni – bydd y gwartheg yn cael eu godro’n fwy effeithiol, bydd y cyfarpar oeri llaeth yn fwy effeithiol gydag unedau adfer gwres a phympiau gwacter.
- Rhagor o wybodaeth – bydd pob buwch yn cael ei hadnabod yn electronig ac yn cario mesuryddion gweithgaredd i roi gwybodaeth allweddol am batrymau ymddygiad yr anifail.