Ymddygiad anifeiliaid
Locust yr Anialwch ifanc, Schistocerca gregaria.
18 Tachwedd 2011
Mae’r cyfarfod, a drefnir gan Dr Rupert Marshall a Dr Roger Santer o’r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS), yn ddigwyddiad pwysig yng Nghymru a thu hwnt, gan fod gan y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid tua 2000 o aelodau gwyddonol ledled y byd.
Meddai Dr Marshall, Darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid, “Rwyf wrth fy modd fod Aberystwyth wedi ei dewis i drefnu’r gynhadledd bwysig hon gan fod hynny’n cydnabod ei harbenigedd ym maes ymchwil ymddygiadol. Rydym yn edrych mlaen i groesawu arweinwyr rhyngwladol ym maes ymchwil ymddygiad anifeiliaid i Aberystwyth.”
Mae’r gynhadledd yn cynnwys hyfforddiant hanfodol ar gyfer gwyddonwyr uwchraddedig – o ddefnyddio’r dechnoleg ddiweddaraf i gyhoeddi eu canfyddiadau ac ymsefydlu fel ysgholheigion.
Meddai Dr Santer, Darlithydd Sŵoleg, “Mae Cynhadledd Basg y Gymdeithas hon yn gyfle gwych i wyddonwyr ifainc gyflwyno eu gwaith ymchwil diweddaraf a dod i wybod mwy am yr adnoddau sy’n gysylltiedig â gwyddoniaeth sydd ar gael iddynt.”
Mae arbenigedd Aberystwyth wrth ddysgu dan arweiniad ymchwil ar gynlluniau gradd mewn Ymddygiad Anifeiliaid, Sŵoleg a Bioleg y Môr a Dŵr Croyw wedi sicrhau’r 4ydd safle yn y DU i’r Brifysgol o ran bodlonrwydd myfyrwyr ymhlith prifysgolion campws y DU. Yn wir, yn ddiweddar fe enwyd un o’i graddedigion yn Fyfyriwr Bioleg Ewropeaidd y Flwyddyn eleni.
Y Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid yw’r brif gymdeithas ddysgedig ryngwladol ar gyfer astudio ymddygiad anifeiliaid a bydd y Llywodraeth a gwneuthurwyr rhaglenni teledu Hanes Naturiol yn ymgynghori’n aml â’i haelodau. Mae gan y Gymdeithas raglen Addysgiadol fywiog yn ogystal ac mae’n chwarae rôl amlwg ym materion lles, yn cynnwys marc safon y diwydiant ar gyfer defnydd moesegol o anifeiliaid mewn ymchwil ymddygiadol.
Dilynnwch y gynhadledd ar Facebook, “ASAB Easter Conference 2012”, a Twitter “ASABEaster2012”.
Ynglŷn â Threfnwyr y Gynhadledd:
• Mae Dr Rupert Marshall yn Ddarlithydd Ymddygiad Anifeiliaid yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar gân anifeiliaid, esblygiad arwyddion a dewis rhywiol.
• Mae Dr Roger Santer yn Ddarlithydd Sŵoleg yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae ei waith ymchwil yn canolbwyntio ar esblygiad mecanweithiau nerfol sydd wrth wraidd ymddygiad infertebrata.
• Mae’r ddau yn aelodau o’r grŵp ymchwil Bioleg Dyfrol, Ymddygiadol, Esblygiadol http://www.aber.ac.uk/en/ibers/research/research-groups/abeb-new/
Ynglŷn â’r Gymdeithas Astudio Ymddygiad Anifeiliaid
Sefydlwyd y Gymdeithas hon yn 1936 er hyrwyddo’r astudiaeth o ymddygiad anifeiliaid, a gall unrhyw un sy’n ymddiddori yn y maes ymaelodi. Ceir bellach tua 2000 o aelodau a daw’r mwyafrif ohonynt o Brydain ac Ewrop. Mae nifer o’r aelodau yn fiolegwyr proffesiynol sy’n gweithio mewn prifysgolion, sefydliadau ymchwil neu ysgolion. Mae’r Gymdeithas yn berchen “Animal Behaviour”, sef y prif gyfnodolyn gwyddonol rhyngwladol yn ei faes. Mae’r Gymdeithas yn elusen gofrestredig (rhif 268494).