Ymchwilwyr pysgod cregyn yn trafod effeithiau newid hinsawdd
Pysgotwyr lleol a gyflenwir y crancod ar gyfer y prosiect SUSFISH i gael samplau DNA
21 Hydref 2011
Yn wythnos olaf Medi, wrth i Aberystwyth fwynhau haf bach Mihangel, daeth ymchwilwyr o Gymru ac Iwerddon ynghyd i drafod effeithiau newid hinsawdd ar bysgodfeydd pysgod cregyn y Môr Celtaidd.
Cynhaliwyd y cyfarfod gan ymchwilwyr o IBERS fel rhan o’r prosiect SUSFISH, gwerth €2.9, a ariennir gan Raglen Cydweithredu Tiriogaethol Drawsffiniol Iwerddon / Cymru (INTERREG 4A).
Mae SUSFISH yn dod ag ymchwilwyr ynghyd o Brifysgolion Aberystwyth, Bangor ac Abertawe yng Nghymru, a Choleg Prifysgol Cork yn Iwerddon i gyflawni ymchwil rhyngddisgyblaethol i fioleg, ecoleg, eigioneg ffisegol ac economeg pysgodfeydd pysgod cregyn y Môr Celtaidd. Y nod yn y pen draw yw cynhyrchu canllawiau i reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy ar sail tystiolaeth wyddonol ac asesiadau economaidd cadarn.
Ymhlith y materion a drafodwyd yng nghyfarfod mis Medi roedd integreiddio data am eneteg poblogaethau â modelau o batrymau gwasgaru larfae drwy olrhain gronynnau, rôl parasitiaid a gorbarasitiaid ym mhrosesau rheoli poblogaethau pysgod cregyn ac effeithiau tebygol ardaloedd gwarchodedig morol ar gynhyrchaeth a chynaliadwyedd poblogaethau o bysgod cregyn.
“Mae’r prosiect hwn wedi dod ag ymchwilwyr ynghyd o ystod o wahanol ddisgyblaethau, pob un ohonynt yn canolbwyntio’u hymdrechion ar un ardal ddaearyddol” meddai Joe Ironside, arweinydd tîm ymchwil IBERS “Rydym yn rhagweld y bydd hyn yn cynhyrchu manteision cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol ar gyfer y rhanbarth, yn ogystal â sefydlu’r Môr Celtaidd yn fodel ar gyfer ymchwil i bysgod cregyn yn y dyfodol” .