Ymchwil Prifysgol Aberystwyth yn datgelu ffynhonnell werthfawr o Bioynni o dan y Môr

Dr. Jessica Adams

Dr. Jessica Adams

28 Gorffennaf 2011

Mae’r Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi canlyniadau gwaith ymchwil i’r defnydd o wymon môr-wiail (kelp) i greu bioynni at y dyfodol.

Roedd yr ymchwil hefyd yn ystyried sut y mae addasrwydd y gwymon yn newid o dymor i dymor, gyda chynaeafu’r cnwd ym mis Gorffennaf yn sicrhau bod lefelau carbohydrad ar eu huchaf, gan sicrhau’r lefelau uchaf posib o siwgr ar gael i’w drosi’n fioynni.

“Mae’r carbohydrad storio a’r siwgr hydawdd yn cael eu troi’n ethanol yn y broses eplesu, felly mae angen cymaint o hynny ag sy’n bosib,” meddai Dr. Jessica Adams, ymchwilydd arweiniol ym Mhrifysgol Aberystwyth. “Mae metalau hefyd yn gallu llesteirio’r burum hefyd felly mae angen i’r rheiny fod cyn ised â phosib.”

Wedi casglu gwymon môr-wiail o lannau Cymru bob mis, roedd ymchwilwyr yn gallu defnyddio dulliau dadansoddi cemegol i asesu’r amrywiadau yn y gwymon. Roedd y canlyniadau, a gyflwynwyd yng Nghynhadledd Flynyddol y Gymdeithas Fioleg Arbrofol yn Glasgow, yn dangos mai’r mis gorau i gynaeafu ar gyfer bioynni oedd Gorffennaf, pan oedd carbohydrad ar ei uchaf, a metalau ar eu hisaf.
Mae modd troi gwymon môr-wiail yn fioynni mewn sawl ffordd wahanol gan gynnwys eplesu neu dreulio anaerobig, gan gynhyrchu ethanol a methanol, neu trwy pyrolysis (dull o gynhesu’r tanwydd heb ocsigen) sy’n cynhyrchu bio-olew. Mae union gynhysgaeth gemegol y gwymon yn bwysig i’r ddwy broses yma.
 
Mae ymchwil i fiodanwyddau hyd yma wedi canolbwyntio ar blanhigion ar y tir; ond un o’r problemau gyda’r rheiny yw ei fod yn arwain at wrthdaro rhwng defnyddio tir at fwyd neu at danwydd.

Mae ecosystemau’r môr yn ffynhonnell sydd heb ei defnyddio eto ac sy’n cyfrif am fwy na 50% o’r holl fio-mas yn y byd ac mae gwymon yn gallu cynhyrchu mwy o fiomas fesul metr sgwâr na phlanhigion fel siwgr câns sy’n tyfu’n gyflym ar y tir.

“Gallai biodanwydd o wymon fod yn bwysig iawn ym maes cynhyrchu ynni yn y dyfodol,” meddi Dr. Adams. “Yn wahanol i fathau eraill o ynni adnewyddadwy, megis ynni gwynt, mae biodanwydd yn cynnig ffynhonnell ynni y mae modd ei storio a’i defnyddio pan fydd y gwynt yn gostwng.”
 
Bydd gwaith yn y dyfodol yn gwella’r broses trwy adnabod a chynaeafu deunyddiau gwerthfawr, megis lliwiau a ffenolau, cyn i weddill y gwymon gael ei ddefnyddio i wneud biodanwydd.