Cynllun newydd i atal gwenwyn bwyd peryglus, IBERS yn dyfeisio system newydd i ddod o hyd i lygredd carthion
Dr Michael Lee
15 Gorffennaf 2011
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn datblygu system i ddod o hyd i olion mân iawn o garthion ar gyrff ieir mewn lladd-dai – olion a all achosi gwenwyn bwyd marwol.
Er nad oes modd eu gweld gyda’r llygad, gall y mymryn lleiaf o fudreddi gynnwys miliynau o ficro-organebau peryglus a all fynd i mewn i gadwyn fwyd y cyhoeddi.
Mae’r Cynllun Gwell Diogelwch Bwyd yn brosiect ymchwil diwydiannol ar y cyd sy’n cael ei gynnal gan IBERS – Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol.
Mae’n anelu at ddatblygu ychwanegolyn naturiol i fael ei roi mewn bwyd ieir fel bod carthion yn dangos golau uwch-fioled.
Byddai’r ychwanegolyn, sydd yn toddi mewn dŵr, wedi ei seilio ar gloroffyl a’i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, yn cael ei fwydo i ieir yn ystod y dyddiau olaf cyn eu gorffen.
Pan fyddai’r rheiny’n cael eu sgrinio gydag offer arbennig mewn lladd-dai, byddai unrhyw garthion yn dangos.
Mae’r prosiect ymchwil yn cael ei gefnogi gan arian o gynllun Llywodraeth Cymru, Arbenigedd Academaidd ar Gyfer Busnes (A4B), sydd wedi ei gefnogi gan arian o Ewrop.
Y nod yw cynyddu’r cydweithio rhwng y byd academaidd a diwydiant ac er mwyn gwneud ymchwil yn fwy masnachol.
Ymhlith y partneriaid sector preifat sy’n rhan o’r prosiect, mae archfarchnad Waitrose; Bwydydd Castell Howell, y cyfanwerthwyr bwyd o Cross Hands, Sir Gaerfyrddin; Bwydydd Randall Parker, lladd-dy rhanbarthol yn Llanidloes; Grŵp Wynnstay PLC o Lansantffraid, cynhyrchwyr a gwerthwyr amlwg ym maes bwydydd anifeiliaid, a’r British Chlorophyll Company Limited, prif wneuthurwr a dosbarthwr cloroffyl.
Mae’r prosiect yn adeiladu ar dechnoleg arloesol y mae IBERS yn ei datblygu i ddod o hyd i lygredd carthon mewn cig coch. Mae’r prosiect hwnnw wedi datblygu deunydd marcio i’w ychwanegu at fwydydd anifeiliaid cnoi cil, er mwyn ei gwneud yn haws gweld carthion wrth sgrinio.
Mae cais patent wedi ei wneud ar gyfer y dechnoleg honno, sydd wedi denu llawer o sylw o fewn y diwydiant bwyd, gyda cheisiadau i gael trwydded ar gyfer y dechnoleg yn China ac India, yn ogystal â chryn ddiddordeb o’r Unol Daleithiau a De America.
Dywedodd Prif Ymgynghorwr Gwyddonol Cymru, yr Athro John Harries, fod gan y prosiect y potensial i gael effaith fawr ar ddiogelwch bwyd, gan ychwanegu budd economaidd i’r diwydiant bwyd yng Nghymru.
Meddai: “Mae hefyd yn dangos yn glir beth yw gwerth gwaith ymchwil diwydiannol ar y cyd rhwng byd busnes a’r byd academaidd, gyda’r nod o droi syniadau da’n llwyddiannau masnachol, a dod â chynnyrch newydd a phrosesau newydd i’r farchnad.”
Yn ôl Dr Michael Lee, o IBERS, y nod yw creu system ‘safon aur’ yng Nghymru ar gyfer sgrinio cyrff yn y lladd-dy a datblygu a masnacheiddio Eiddo Deallusol newydd trwy’r prosiect. Fe fyddai hynny o fudd i’r diwydiant bwyd yng Nghymru.
“Mae pryder byd-eang am iechyd cyhoeddus wedi bod yn gysgod tros boblogrwydd cynyddol ieir ac mae wedi canolbwyntio’n bennaf ar ddiogelwch bwyd microbiaidd. Cig dofednod, yn arbennig ieir, yw prif achos gwenwyn bwyd mewn pobl yn ôl adroddiadau i achosion salwch.
“Ar draws y byd, mae dosbarthwyr, defnyddwyr a swyddogion iechyd cyhoeddus yn parhau’n bryderus am bresenoldeb gormod o ficro-organau pathogenaidd a rhai sy’n sbwylio cig mewn cig dofednod a’i is-gynhyrchion,” meddai Michael Lee. “Y rheiny sydd wedi arwain at dadogi llawer o achosion o wenwyn bwyd ar gig adar.
“Bydd y prosiect yna yn ymchwilio a datblygu system ar gyfer sgrinio cyrff adar fel bod modd sylwi ar lygredd carthion anweledig. Trwy wneud hynny, bydd modd lleihau neu gael gwared ar lygredd microbiaidd, gan ddibynnu ar y dull sy’n cael ei ddefnyddio.
“Bydd yn gwella iechyd cyhoeddus trwy leihau achosion o wenwyn bwyd ac rydym yn credu y bydd yn arwain at gynnwys y math mwyaf gweladwy a sefydlog o’r deunydd marcio mewn cynhyrchion, prosesau a gwasnaethau newydd.
“Bydd yn arwain hefyd at ddatblygu system ddarlunio sbectraidd er mwyn adnabod y deunydd marcio.”
Bydd y prosiect yn cael ei lansio ddydd Llun, 18 Gorffennaf, yn nerbyniad IBERS yn y SioeBydd y prosiect yn cael ei lansio ddydd Llun, 18 Gorffennaf, yn nerbyniad IBERS yn y Sioe Fawr – rhwng 5 a 7pm ym Mhafiliwn Addysg Prifysgol Aberystwyth y drws nesaf i S4C uwchben y prif gylch. Mae croeso i aelodau o’r wasg a’r cyfryngau ddod yno.