Addysgu Rhagorol yn IBERS yn cael ei gydnabod a’i wobrwyo
Dr Carl Cater a Dr Hazel Davey
31 Awst 2011
Amcanion y cynllun Cymrodoriaeth yw:
1. Codi proffil gwaith addysgu neu gymorth i ddysgu yn y Brifysgol;
2. Cydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth unigol wrth addysgu neu gynorthwyo dysgu;
3. Cydnabod a dathlu unigolion sy’n cael effaith eithriadol ar brofiad dysgu’r myfyriwr;
4. Cydnabod dylanwad lleol ac ehangach yr unigolyn ar yr addysgu, neu arferion eraill cynorthwyo dysgu;
5. Darparu llwybr i’r Cynllun Cymrodoriaeth Addysgu Cenedlaethol (NTFS).
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cydnabod rhagoriaeth addysg trwy ddyfarnu tua phump o wobrau unigol o £1,200 bob blwyddyn fel y gall yr enillwyr barhau â’u datblygiad proffesiynol trwy addysgu neu gynorthwyo dysgu.
Ynglŷn â chais Dr Carl Cater roedd y panel o’r farn: “bod yr ymgeisydd wedi dangos ymwybyddiaeth glir a phendant o’i amcanion addysgu ei hun a nifer o gynlluniau anogol; yn benodol felly y gwaith ar foeseg ac ar gyfnodolion myfyriol myfyrwyr”.
Tynnodd y panel gwobrwyo sylw at “hunan-fyfyrio” Dr Hazel Davey a’r defnydd o “gynlluniau a dulliau blaengar sydd wedi gwella profiad dysgu’r myfyrwyr”, a chydnabod ei bod “yn chwarae rhan pwysig yn y tîm”.
Meddai’r Athro Will Haresign, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn IBERS: “Mae’r Sefydliad yn rhoi pwyslais mawr ar ragoriaeth addysgu, ac mae’r gwobrau hyn gan y Brifysgol yn rhai cystadleuol iawn. Mae derbyn un yn arbennig o dda, ond y mae derbyn dau yn gyflawniad gwirioneddol eithriadol. Y mae’n dangos pa mor ymroddedig yw ein staff wrth fynd ar drywydd rhagoriaeth addysgu, ac mae hyn wedi’i adlewyrchu’n glir ym mhrofiad dysgu’r myfyrwyr, rhywbeth sy’n amlwg o’r canlyniadau rhagorol yn yr Arolwg Cenedlaethol o Fodlonrwydd Myfyrwyr dros y blynyddoedd diwethaf”.