Gwobr bioleg

Victoria Franks

Victoria Franks

31 Awst 2011

Mae myfyrwraig sŵoleg o Aberystwyth, Victoria Fanks, wedi ei chynnwys ar restr fer gwobr “Myfyriwr Bioleg Gorau” yng Ngwobrau Ewropeaidd Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) 2011.

Mae Victoria yn un o 3 yn unig allan o 600 o ymgeiswyr sydd wedi ei chynnwys ar y rhestr fer. Y cam nesaf fydd cyfweliad yn Llundain i benderfynu pwy fydd yr enillydd.

Graddiodd Victoria gyda gradd dosbarth cyntaf yn gynharach eleni a bu’n rhaid iddi ysgrifennu crynodeb 2,000 o eiriau o’i phrosiect anrhydedd blwyddyn olaf. Roedd “Brains or daring: shoaling fish follow the leader” yn astudiaeth o ddysgu cymdeithasol ymysg gupїod (pilcod y Caribî), pysgod trofannol.  Wedi iddi glywed y newyddion dywedodd Victoria: “Rwy’n rhyfeddu at hyn ond wrth fy modd. Roeddwn yn caru bod Aberystwyth ac roedd astudio ymddygiad y ‘gupїod’ ar gyfer fy mhrosiect yn hynod ddiddorol!”

Enwebwyd Victoria gan ei thiwtor, Dr Rupert Marshall, darlithydd mewn Ymddygiad Anifeiliaid ym Mhrifysgol Aberystwyth.  “Rwy’n hapus iawn dros Victoria.  Roedd hi’n fyfyrwraig dda iawn, wedi ei chyffroi gan wyddoniaeth ac yn berson hyfryd i weithio gyda. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddi yn y rhan nesaf o’r gystadleuaeth.”

Bydd enillydd gwobr “Myfyriwr Bioleg Gorau” yn cael ei ystyried ar gyfer y wobr fawr “Myfyriwr y Flwyddyn” - a thiwtor y myfyriwr yn cael gwobr “Darlithydd y Flwyddyn”. Bydd y canlyniadau yn cael eu cyhoeddi mewn cinio yng Ngwesty’r Millennium, Grosvenor Square yn Llundain ar ddydd Gwener 23ain Medi.