Myfyriwr Prifysgol Aberystwyth yn cael llwyddiant cenedlaethol a rhyngwladol ym maes Para-Farchogaeth

Paula Clark

Paula Clark

17 Awst 2011

MaePaula Clarke, sy’n fyfyriwr ym Mhrifysgol Aberystwyth, wedi bod yn cystadlu’n llwyddiannus ar geffylau IBERS mewn cystadlaethau Hyweddu Para-Farchogaeth ar lefel genedlaethol a rhyngwladol er 2007.
Myfyriwr sydd wedi bod yn astudio Celf a Cherameg yn Ysgol Addysg a Dysgu Gydol Oes Prifysgol Aberystwyth er 2007 yw Paula, sy’n byw yng Ngheredigion. Ynghyd â chymorth staff o Ganolfan Farchogaeth Lluest IBERS, mae hi’n parhau i gyflawni canlyniadau rhagorol mewn cystadlaethau Hyweddu Para-Farchogaeth niferus ar draws y wlad.


Gyda chefndir fel hyfforddwr marchogaeth oedd yn rhedeg ysgol farchogaeth gyda’i rhieni yng Ngharno, Powys, cyn cael diagnosis o Syndrom Ehlers-Danlos tuag un ar ddeg o flynyddoedd yn ôl, roedd Paula yn farchog medrus a gwrthododd adael i’w phroblemau symudedd a chlyw cynyddol ei hatal rhag gwireddu ei gobeithion cystadlu. Pan ddywedwyd wrthi nad oedd ei cheffyl ei hun o safon ddigonol i rai cystadlaethau uchel eu bri, cysylltodd Dr Carol Green, cyn Gynrychiolydd Para IBERS â Paula, gan weld ei photensial a dechrau ei hyfforddi.


I ddechrau, neilltuwyd ceffyl IBERS ‘Foxy Lady’ i Paula, ac fe’i detholwyd ar gyfer Cystadleuaeth Hyweddu nodedig Hartpury gan y Cymrawd BHS Jane Goldsmith. Fodd bynnag yn ddiweddarach, aeth Foxy Lady yn feichiog a gorfu i Paula gystadlu ar geffyl newydd ‘4Sox’, gyda phrin wyth wythnos o hyfforddi; er gwaethaf hyn rhoddodd berfformiad cadarn a chyflawni cyfartaledd o 60% mewn hyweddu. Mae’n ymddangos nad yw goresgyn rhwystrau’n ddim byd newydd i Paula, sy’n esbonio mai’r prif drafferthion y mae’n eu profi’n ddyddiol yw blinder eithafol, ansefydlogrwydd ei chymalau, cryndod yn y corff a chlyw rhannol.


Ymhlith llwyddiannau Paula’n cystadlu mae: dwy wobr gyntaf yng nghystadleuaeth Cymhwyso’r Gaeaf Para Farchogaeth Lluest, cyntaf ac ail yng nghystadleuaeth Cymhwyso Para Hickstead Home Farm, pedwerydd a phumed yng nghystadleuaeth Cymhwyso Para Hickstead Canolfan Marchogaeth Patchetts, ail ym Mhencampwriaeth Gaeaf Hartpury a thri phrawf rhagarweiniol yn Aberystwyth lle sicrhaodd safleoedd cyntaf, ail a phedwerydd.
Yn fwyaf diweddar bu Paula’n cystadlu yng Nghas-gwent ar 6 Gorffennaf ac yna yn Hartpury ar 13 Gorffennaf ar geffyl IBERS ‘Hope’. Dywedodd Hannah Titley, Hyfforddwr Ymarferol yng Nghanolfan Marchogaeth Lluest IBERS “Gwnaeth Paula yn ardderchog. Roedd hi yng nghanol y dosbarth oedd yn dda gan fod llawer o wledydd/cystadleuwyr yno yn ceisio sicrhau eu cymhwysiad Olympaidd. Roedd yn safle 14 yn y prawf Tîm a safle 15 yn y prawf pencampwr unigol mewn dosbarth o 23. Rydyn ni i gyd yn hapus iawn gyda’r canlyniadau o ystyried bod Hope (y ceffyl) mor ifanc, ac fe lwyddodd i ymdopi’n wych gyda’r awyrgylch sy’n argoeli’n dda iawn at y dyfodol.”