Targedau therapiwtig newydd posibl ar gyfer Schistosomiasis
Yr Athro Karl F Hoffmann
10 Awst 2011
Mewn papur â’r teitl Cytosine methylation regulates oviposition in the pathogenic blood fluke Schistosoma mansoni a gyhoeddir yn Nature Communications ddydd Mawrth 9 Awst 2011, mae’r Athro Karl Hoffmann o Sefydliad Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig y Brifysgol yn amlinellu sut maen nhw wedi adnabod addasiad DNA penodol o’r llyngyren ledog barasitig Schistosoma mansoni sy’n achosi’r clefyd schistosomiasis.
Afiechyd cronig a gwanychol a achosir gan lyngyr gwaed yw schistosomiasis, sy’n lladd 300,000 o bobl y flwyddyn. Mae’r nifer hwn o farwolaethau’n ail yn unig i falaria ymysg clefydau parasitig, ac mae hefyd yn gadael dros 200 miliwn o bobl â salwch cronig.
Am y tro cyntaf, mae’r Athro Hoffmann a’i gydweithwyr yn dangos bod DNA genomig y llyngyren gwaed Schistosoma mansoni yn fethyledig, ac maen nhw wedi adnabod y protein (methyltransfferas DNA) sy’n debygol o hwyluso’r broses hon.
Ystyrir mai methylu DNA (cysylltu grŵp methyl ag un o bedair sail niwcleaidd sy’n creu DNA unrhyw organeb) yw un o’r addasiadau genom pwysicaf ym myd natur ac mae’n ymwneud â bioleg ddatblygiadol, rheoli mynegiad genynnau ac amrywiaeth ffenoteipaidd.
Canfu’r gwyddonwyr fod creu ataliad cemegol o fecanwaith methylu’r DNA gyda’r cyffur cemotherapiwtig a gymeradwywyd gan yr FDA, 5-azacytidine (5-AzaC), yn lleihau’n ddramatig y nifer o wyau a gynhyrchir gan lyngyr gwaed benywaidd a’i fod hefyd yn achosi namau datblygiadol yn yr wyau sy’n weddill.
Gan fod wyau’n gyfrifol am y batholeg sy’n gysylltiedig â schistosomiasis a throsglwyddo’r clefyd, mae’r canfyddiadau hyn yn awgrymu bod modd targedu’r proteinau sy’n methylu DNA yn y llyngyr gwaed er mwyn eu rheoli.
Dywedodd yr Athro Hoffmann: “Yn nhermau’r effaith ar fywydau pobl mae’r clefyd hwn yn waeth na TB, malaria ac mae’n cyfateb i AIDS o ran baich y clefyd. Mae’n cael effaith fawr ar yr hyn y gallan nhw ei wneud. Mae’n amhosibl mynd i’r ysgol, does dim modd gweithio, ac mae’r boen yn barhaus.”
“Mae’r darganfyddiad hwn o ran y modd y gellir addasu genynnau schistosome yn anhygoel o gyffrous gan ei fod yn cyflwyno dull newydd o reoli schistosomiasis a hefyd yn darparu tystiolaeth sy’n dangos rôl ymarferol bwysig ar gyfer yr addasiad penodol hwn wrth ddatblygu rhywogaeth o fwydyn parasitig.”
Mae’r ymchwil wedi’i gyllido gan Ymddiriedolaeth Wellcome a’r Sandler Center for Basic Research in Parasitic Diseases.