Myfyrwyr cefn gwlad IBERS yn gwella mynediad cyhoeddus yn Nhrawscoed

Toby Ballard, Matthew Pinnock, Samantha Wright, Gareth Salvidant, Gwydion Ifan a Sarah Fielder yn sefyll ar y bont a adeiladodd y grŵp

Toby Ballard, Matthew Pinnock, Samantha Wright, Gareth Salvidant, Gwydion Ifan a Sarah Fielder yn sefyll ar y bont a adeiladodd y grŵp

01 Awst 2011

Mae myfyrwyr Diploma Cenedlaethol Uwch a Gradd Sylfaen sy’n astudio Rheolaeth Cefn Gwlad a Chadwraeth yn Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) ym Mhrifysgol Aberystwyth, newydd gwblhau prosiect i wella llwybrau cerdded a llwybrau ceffylau o fewn ystâd Trawscoed a’r ardal gyfagos. Dros gyfnod o wythnosau maent wedi atgyweirio ffensys, adeiladu a gosod gatiau, ac wedi adeiladu pont newydd sbon i gerddwyr dros Nant Cwm Newyddion. Adeiladwyd y bont gan ddefnyddio pren o fferm y Brifysgol yn Trawscoed. Bydd y gwaith hwn yn gwella mynediad cyhoeddus ar yr ystâd.

Ariannwyd y prosiect gan Gyngor Sir Ceredigion, ac ni fyddai’r gwaith wedi bod yn bosibl heb gydweithrediad hael perchnogion tir cyfagos, a staff fferm Trawscoed. Mae’r myfyrwyr blwyddyn gyntaf yn astudio i ddod yn wardeniaid, ceidwaid a rheolwyr tir, a bu’r gwaith hwn yn rhan o’u hyfforddiant i feithrin sgiliau ymarferol.