Datganiad i'r Cyfryngau Gwener 12 Chwefror
Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig
Mae Cyngor Prifysgol Aberystwyth mewn cyfarfod heddiw, ddydd Gwener 12 Chwefror, wedi rhoi cefnogaeth unfrydol i ailstrwythuro Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS).
Tanlinellodd y Cyngor ei gefnogaeth lawn i IBERS a’i benderfyniad i greu sefydliad gwyddonol cystadleuol rhyngwladol ym Mhrifysgol Aberystwyth, sy’n darparu addysg, ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth er mwyn ymgymerid â heriau’r 21ain ganrif.
Mae’r Cyngor yn cydnabod fod IBERS yn wynebu diffyg ariannol sylweddol a chynyddol, sefyllfa sydd angen sylw ar unwaith i sicrhau cynaliadwyedd y sefydliad, er mwyn gwireddu ei ddyhead i fod yn sefydliad o safon byd.
Penderfyniad y Cyngor yw ymateb i’r sefyllfa ariannol drwy ymgynghori yn llawn gydag aelodau staff a’r undebau llafur ac mewn modd a fydd yn cydymffurfio gyda gofynion cyfreithiol.
Y nod yw bod yr ailstrwythuro yn cael ei gwblhau, cyn belled ag sydd yn bosib, yn wirfoddol. Er hyn, mae’r Cyngor yn cydnabod y bydd angen rhai diswyddiadau gorfodol o bosibl.
Mae’r broses ffurfiol yn mynd yn ei blaen, a bydd y Cyngor yn trafod y mater yn ei gyfarfod nesaf, wedi iddo dderbyn adroddiad ac argymhellion.
Manylion pellach:
Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk