Cynigion i Ail-Strwythuro IBERS
Mae Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig (IBERS) Prifysgol Aberystwyth wedi cyhoeddi cynigion i ail-strwythuro er mwyn gwireddu’r weledigaeth o sefydliad cynaliadwy o safon byd.
Cafodd y cyhoeddiad ei wneud gan Gyfarwyddwr IBERS, Yr Athro Wayne Powell, mewn cyfarfod o staff IBERS ar gampws y Brifysgol yn Llanbadarn heddiw, ddydd Gwener 5 Chwefror.
Mae’r cynigion yn golygu canolbwyntio adnoddau er mwyn galluogi’r Sefydliad i ymateb i heriau gwyddonol ac ariannol newydd, ac adeiladu ar yr enw da sydd ganddo fel arweinydd byd yn y maes.
Mae IBERS yn bwrw ymlaen â rhaglen datblygu cyfalaf, gwerth sawl miliwn o bunnoedd, a fydd yn sicrhau fod adnoddau dysgu ac ymchwil o’r safon orau ar gampysau Penglais a Gogerddan. Yn ogystal mae 13 swydd newydd o bwys strategol yn cael eu creu.
Dywedodd yr Athro Wayne Powell; “Mae’r datblygiadau yma yn golygu bod IBERS yn lleoli ei hunan ar flaen y gad yn nhermau ymchwil wyddonol. Bydd yn galluogi IBERS i fanteisio yn llawn ar ddatblygiadau cyffrous mewn gwyddoniaeth, sicrhau fod ein gweithgareddau yn gydnaws â heriau cyfoes byd eang, tra’n parhau i ddiwallu gofynion ein partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, a’n cyllidwyr ymchwil.”
“Bydd y penodiadau a’r adnoddau newydd yn hwb pwysig wrth i ni ymdrechu i gynhyrchu mwy o ymchwil, a bod yr ymchwil honno o ansawdd uwch ac yn dwyn mwy o ddylanwad”, ychwanegodd.
Yn ei ffurf bresennol mae disgwyl i IBERS wynebu diffyg ariannol o bron i £2.4m erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2011/12. Mae hyn mewn cyd-destun ehangach sydd yn amcangyfrif y bydd gostyngiad o 15% o leiaf mewn cyllid cyhoeddus dros gyfnod o 3 blynedd. Er mwyn osgoi sefyllfa o’r fath, mae’r Sefydliad wedi nodi’r angen i golli'r hyn sydd yn cyfateb i ryw 70 o swyddi amser llawn. Bydd y rhain yn cynnwys staff technegol, cynorthwyol, dysgu ac ymchwil.
Bydd y cynigion yn cael eu cyflwyno i Gyngor y Brifysgol ddydd Gwener 12 Chwefror. Mae cyfnod 30 niwrnod o ymgynghori gyda staff a’r Undebau yn dechrau heddiw, 5ed Chwefror.
Y gobaith yw y bydd y rhan fwyaf o’r diswyddiadau yn IBERS yn gallu digwydd drwy ad-leoli o fewn y Brifysgol, diswyddo gwirfoddol neu ymddeol cynnar gwirfoddol. Serch hynny ni ellir addo na fydd diswyddiadau gorfodol. Mae disgwyl i’r broses hon gael ei chwblhau erbyn diwedd mis Mawrth 2010.
Manylion pellach:
Arthur Dafis, Cyfathrebu a Materion Cyhoeddus, Prifysgol Aberystwyth
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk