Hanes y Melinydd
Mae ffermio modern a hen grefft y melinydd wedi dod at ei gilydd i greu blawd organig newydd i Gymru.
Torthau wedi eu gwneud gyda’r blawd fydd un o’r testunau siarad yn y Ffair Aeaf yn Llanelwedd eleni.
Mae’r blawd newydd yn unigryw oherwydd ei fod yn defnyddio gwenith organig sydd wedi ei dyfu’n lleol - menter ar y cyd rhwng canolfan ymchwil fyd-enwog IBERS ym Mhrifysgol Aberystwyth a pherchnogion y felin ddŵr weithredol ddiweddara’.
Mae Andrew ac Anne Parry o Felin Ganol, Llanrhystud, ger Aberystwyth, ill dau’n gyn-aelodau o staff IBERS – Sefydliad y Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig – a phan aethon nhw ati i chwilio am wenith organig lleol, dyma droi at eu hen gyflogwyr.
Mae rhagor o ddatblygiadau ar y ffordd gydag IBERS a Felin Ganol yn cydweithio ar ragor o ymchwil i fathau o geirch traddodiadol.
Bydd y torthau ar werth ar uned Canolfan Organig Cymru, sy’n rhan o’r adran organig ar falconi’r Adeilad Da Byw yn y Ffair Aeaf. Mae’r Ganolfan yn rhan o IBERS.
Arbed cludo bwyd, gobaith newydd i ffermwyr
Mae tyfu cnydau’n lleol yn golygu arbed ar gludo bwyd a gollwng nwyon tŷ gwydr a hefyd yn cynnig y cyfle o incwm newydd i ffermwyr.
Mae blawd Felin Ganol yn cael ei werthu mewn marchnadoedd ffermwyr lleol a siopau pentref ac yn cael ei ddefnyddio gan boptai traddodiadol Mae’n ffrwyth gwaith adfer sylweddol ar y felin ddŵr o’r 16eg ganrif.
“Mae’r cydweithio gyda Felin Ganol yn dangos parodrwydd Ffermydd IBERS i weithio gyda phroseswyr bwyd a ffermwyr i ddatblygu cynhyrchion sylfaenol yn lleol,” meddai Dr Huw McConochie, Rheolwr Ffermydd IBERS.
“R’yn ni’n gobeithio y bydd y gwaith gyda Felin Ganol i dyfu gwenith yn arwain at gynyddu incwm ffermwyr lleol yn ogystal â sicrhau cynnyrch lleol i’r felin.”
Helpu busnesau
Mae IBERS eisoes yn llwyddiannus wrth dyfu barlys ar gyfer bragdy lleol, Penlon, ac maen nhw’n gallu addasu eu cynnyrch ar gyfer anghenion defnyddwyr ac amodau tyfu yng Nghymru.
Yn draddodiadol, roedd grawn ar gyfer bragu a malu yn cael ei dyfu a’i brosesu o fewn ardal fechan – esiampl berffaith o gynaladwyedd a chynhyrchu bwyd gydag ôl troed carbon bach.
“Mae bridwyr planhigion yn IBERS yn defnyddio technolegau modern i gynhyrchu amrywiaeth o rawn, gwair a chodlysiau sy’n cael effaith gadarnhaol ar yr amgylchedd, tra bod Ffermydd IBERS yn ymdrechu i fod yn fwy hunangynhaliol ac i leihau eu heffaith ar yr amgylchedd,” meddai Huw McConochie..
“Mae’r gwenith ar gyfer Felin Ganol yn enghraifft ardderchog arall o’r ffordd y mae IBERS yn defnyddio gwaith ymchwil o safon byd i helpu creu cyfleoedd i ffermwyr a busnesau lleol.”
Malu – cenhadaeth i Andrew ac Anne
Mae cynhyrchu blawd wedi troi’n genhadaeth i Andrew ac Anne Parry, ers iddo ef ymddeol dair blynedd yn ôl o’i swydd yn rheolwr cyfrifiaduron yn IBERS. Roedd Anne hefyd yn gweithio yno ar un adeg, yn batholegydd planhigion.
Fe wnaethon nhw brynu Felin Ganol. Llanrhystud heb hyd yn oed feddwl am ei chael i weithio eto. Ond unwaith y symudon nhw yno, roedd y demtasiwn yn ormod.
“Allwch chi ddim byw gydag olwyn ddŵr heb ddyfalu a fedrech chi ei chael i droi,” meddai Anne. “Ac allwch chi ddim gweld llyn gwag heb fod eisiau ei lenwi.”
Yn 2008 y trodd yr olwyn ddŵr am y tro cynta’ ers mwy na 50 mlynedd ac, o fewn blwyddyn, roedden nhw’n dechrau gwerthu eu blawd i siop y pentref.
Gyda’i chefndir mewn patholeg planhigion, Anne yw’r melinydd, tra bod Andrew’n defnyddio’i sgiliau ymarferol i fod yn saer melinau.
“R’yn ni’n tynnu ar ein profiadau yn ein gyrfaoedd cyn hyn,” meddai Anne. “R’yn ni eisiau defnyddio cynnyrch organig lleol, eisiau cyflenwi’r blawd i bobyddion a bwytai a’i werthu mewn siopau lleol. Llafur cariad yw e.”
Manylion Pellach:
Dr. Huw McConochie, IBERS, Prifysgol Aberystwyth. 07891 956736 / hum@aber.ac.uk