Lansiad Cangen Gyntaf BASES yng Nghymru

10 Mehefin 2008

Mae’r corff proffesiynol ar gyfer y gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff yn y DU, sef Cymdeithas Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prydain (BASES), wedi cyhoeddi ei bod yn lansio cangen yng Nghymru, a fydd wedi’i lleoli ar y cychwyn yn Adran Gwyddor Chwaraeon ac Ymarfer Corff Prifysgol Aberystwyth.

Nod y gangen yw hyrwyddo rhagor ar amcanion y Gymdeithas a’i haelodau yn ardal ddaearyddol y rhanbarth. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am ddwy flynedd hyd at Gynhadledd Myfyrwyr y Gymdeithas ym Mhrifysgol Aberystwyth yn 2010. Nod y Gymdeithas yw sefydlu Pwyllgor o Gynrychiolwyr a Chadeirydd sydd wedi’u hethol/enwebu yn lleol, a bydd gweithgareddau’r gangen yn cynnwys cyfarfodydd rheolaidd, seminarau a chyfleoedd i wneud gwaith datblygu proffesiynol parhaus. Y mae’r gangen hefyd yn bwriadu cyhoeddi cyfieithiad Cymraeg o e-newyddion wythnosol y Gymdeithas. Os hoffech ymuno â changen y Gymdeithas yng Nghymru, cysylltwch â’r Athro David Lavallee (david.lavallee@aber.ac.uk).