Gwasgwch y geiniog er mwyn goresgyn y wasgfa medd IBERS
“Ystyriwch y ffigurau” fydd neges IBERS Prifysgol Aberystwyth i ffermwyr sy’n mynychu’r Ffair Aeaf eleni wrth iddynt ymdrechu i jyglo’r costau a gwneud y dewisiadau priodol ar gyfer rheoli cynlluniau bwydo dros fisoedd y gaeaf.
“Y neges glir i ni yn sioe Fawr yr haf yn Llanelwedd oedd bod ffermwyr wedi lleihau yn sylweddol eu defnydd o wrteithiau mewn ymateb i’r cynnydd dramatig a fu ym mhris gwrtaith”, medd Dave Davies, Swyddog Ymestyn IBERS.
“Ddylai neb ddiystyru gwerth codlysiau, ac yn enwedig yr amrywiaethau diweddaraf o feillion coch, sy’n medru dal N atmosfferig ac sydd hefyd yn ffynhonnell o borthiant sy’n uchel mewn protein. Mae hyn yn cynyddu gallu’r ffarmwr i wneud defnydd o borthiant a dyfir ar y fferm, i leihau'r cyfanswm o borthiant a gwrtaith a brynir i mewn i’r fferm, yn ogystal â gwella perfformiad yr anifeiliaid ynghyd ag ansawdd y cig a’r llaeth.”
Dros y blynyddoedd datblygwyd amrywiaethau o feillion coch yn Aberystwyth sydd â’r gallu i gnydio’n well a hefyd i wneud gwell silwair. Gellir lleihau costau gwrtaith felly heb golled yn y gwerth maethlon. Mae’r ôl troed carbon hefyd yn cael ei leihau, gyda chynnydd ym mhroffidioldeb mentrau bîff, defaid a llaeth, ynghyd â lleihad yn y defnydd o ynni.
Oherwydd costau porthiant, tanwydd a gwrtaith, mae ffermwyr yn cadw llygad manwl ar opsiynau ar gyfer bwydo dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf. Y nod cyntaf yw gwneud y gorau o’r tir pori, cyn ystyried wedyn y cnydau porthiant a all lanw’r bwlch, a lleihau ar gostau cadw a phesgi. Targedi ansawdd porthiant i anghenion penodol da byw fydd testun cystadleuaeth y Ganolfan Datblygu Tir Glas i ffermwyr yn y Ffair Aeaf gyda basged Nadolig o gynnyrch Cymreig yn wobr.
Fe gaiff ymwelwyr â stondin IBERS hefyd glywed y diweddaraf am raglen ymchwil gwerth £1miliwn sy’n cael ei chydlynu gan Brifysgol Aberystwyth, ac a allai ddylanwadu’n gadarnhaol ar achosion o glefyd y galon ynghyd â chynnig manteision arwyddocaol i iechyd yn gyffredinol o fewn y gymuned ehangach.
Mae’r rhaglen sy’n cael ei ariannu gan y llywodraeth a’r diwydiant, ac sydd nawr yn ei ail flwyddyn, yn canolbwyntio ar ddatblygu potensial rhygwellt parhaol er mwyn cyflwyno cyfran uwch o asidau braster amlannirlawn sy'n gyfoethog mewn omega-3 i greadur bîff ac yn y pen draw, i ddyn.
“Rydyn ni yn ceisio dangos y cysylltiad rhwng gwella gwerth maethol cig eidion a'i ddylanwad ar glefyd y galon, un o'n clefydau mwyaf amlwg," meddai Nigel Scollan, arweinydd y prosiect.
“Mae'r ymchwil yn cefnogi'r ddarpariaeth o gynnyrch bwyd amrywiol, sy'n fwy diogel, yn fwy iach, yn fwy maethlon, sy'n ateb y diben ac sy'n ymateb i ddisgwyliadau'r defnyddiwr.”
Bydd elfennau eraill stondin IBERS yn cynnwys yr ymchwil ar gnydau ynni gyda diweddariad o’r cynllun arddangos ‘Helyg i Gymru – Willow for Wales’ sy’n cael ei arwain gan Chris Duller o’r Ganolfan Datblygu Tir Glas.
Gyda’r elw o systemau da byw yn crebachu fyth a hefyd mae yna gymhelliad go iawn i ffermwyr i edrych ar ddefnydd amgenach i’w tiroedd megis tyfu cnydau biomas Dangosodd prosiect “Helyg i Gymru” y gellir tyfu helyg mewn coedlannau cylchdro byr ar draws y wlad, gyda thyfwyr yn manteisio ar farchnad gref iawn mewn sglodion coed, sy’n cynnig ffrwd arall o incwm derbyniol i’r fferm.
Mae’r arddangosiadau yn cynnwys ffigurau sy’n dangos y costau a’r manteision i’r fferm ac yn caniatáu i’r ffarmwr ei hunan i amcangyfrif yr enillion posibl.
Fe drafodir nifer o’r materion hyn mewn brecwast arbennig pan fydd yr Athro Wayne Powell, Cyfarwyddwr IBERS yn manteisio ar y cyfle cyntaf i ryngweithio yn gyhoeddus gyda’r diwydiant ers ei benodiad yn yr haf, ac yn rhannu ei weledigaeth e’ ar gyfer y dyfodol ac yn dangos pa mor bwysig yw’r Sefydliad i ddyfodol amaeth yng Nghymru.
"Gyda phwysau cynyddol ar diroedd ar gyfer bwyd a chynhyrchu tanwydd ochr yn ochr â’r galw cynyddol ar draws y byd am gynnyrch cig a llaeth, mae’r amser yn briodol i amaethyddiaeth yn y DU i fedi cynhaeaf datblygiadau gwyddonol newydd yn ogystal â’r rhai a wnaed eisoes, a ble mae IBERS yng Nghymru yn chwarae rhan mor bwysig”, meddai’r Athro Powell.
Ychwanegodd Dave Davies, “Eto, fel gyda’r Sioe Fawr yn yr haf, y prif nod yw cynnig mwy o opsiynau i ffermwyr mewn byd sy’n newid, a dangos iddyn nhw sut y medran nhw wneud defnydd o ganlyniadau ymchwil yn IBERS i helpu i ddarparu atebion cynaliadwy i sialensiau ym myd amaeth.”
Gwybodaeth bellach:
Emma Shipman, Swyddog Cyhoeddusrwydd a Digwyddiadau, Swyddfa Fusnes IBERS, Gogerddan, Prifysgol Aberystwyth 01970 823002 / eos@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Swyddog Cyhoeddusrwydd a’r Wasg, Prifysgol Aberystwyth,
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk
Cynhelir y Ffair Aeaf ar faes y Sioe Fawr yn Llanelwedd ar ddydd Llun a dydd Mawrth, 1af ac 2il o Ragfyr. Mae stondin IBERS ar lawr cyntaf adeilad Da Byw 1 ac fe fydd gwin cynnes a mins-peis ar gael i bawb o 11 y bore ddydd Mawrth 2il o Ragfyr.