Y Dug yn cael cip ar brosiect arloesol newydd
Cafodd Dug Caeredin ei gyflwyno i brosiect amaethyddol arloesol pan ymwelodd ag Aberporth yng Ngheredigion.
Galwodd i weld gwyddonwyr o ganolfan newydd IBERS (Sefydliad y Gwyddorau Bywydegol, Amgylcheddol a Gwledig) ym Mhrifysgol Aberystwyth, wrth iddyn nhw ddangos canlyniadau cyntaf prosiect ymchwil o’r enw U-MAP.
Nod hwnnw yw defnyddio awyrennau bychain di-beilot i hedfan tros dir amaethyddol gan dynnu lluniau o gnydau a chaeau. Bydd y rhain yn gallu helpu ffermwyr gydag amrywiaeth o broblemau, gan gynnwys penderfynu faint o wrtaith i’w ddefnyddio, pa gnydau i’w cynaeafu a lle i bori.
Cafodd y Dug weld yr enghreifftiau cyntaf yn y Deyrnas Unedig o luniau wedi eu tynnu o un o’r UAVs – yr awyrennau dibeilot – yma. Mae techneg ffotograffig soffistigedig newydd a dadansoddi cyfrifiadurol yn gallu tynnu sylw at wahaniaethau bach, ond allweddol, mewn planhigion a phridd.
“Roedd yn dangos diddordeb mawr,” meddai Alan Gay, rheolwr y prosiect ar ran IBERS. “Roedd hyd yn oed yn gofyn a oedd modd defnyddio’r dechnoleg i ddod o hyd i geirw!”
Mae IBERS yn gweithio mewn partneriaeth gyda Sefydliad Daearyddiaeth a Gwasanaethau Daear Prifysgol Aberystwyth a QinetiQ, sy’n rhedeg Canolfan UAV Gorllewin Cymru yn Aberporth. Mae’r prosiect yn cael cefnogaeth Llywodraeth y Cynulliad.
Un o brif dargedau cyntaf y prosiect fydd defnyddio’r dechnoleg fforddadwy newydd i reoli faint o nitradau sy’n cael eu defnyddio ar y tir – dyma rai o brif achosion llygredd amaethyddol, ond maen nhw hefyd yn hanfodol i gnydau.
Bydd y dechneg newydd yn dangos faint o nitrogen sydd yna yn y pridd ac mewn planhigion – pa gnydau sydd angen rhagor o wrtaith a ble mae nitrogen yn gorwedd yn y pridd.
“Bydd hyn yn helpu ffermwyr i dargedu eu defnydd o wrtaith drud, gan wneud yn siŵr nad ydyn nhw’n defnyddio gormod nac yn gwneud drwg i’r amgylchedd,” meddai Alan Gay.
“Defnydd cynnar arall fydd helpu ffermwyr tir uchel i weld ble mae’r tir pori gorau ar gyfer eu hanifeiliaid. Gall fod yn anodd asesu hynny o’r ddaear.”
Cafodd y Dug weld lluniau o gaeau yn Swydd Henffordd ac ardal Aberystwyth – mae gwyddonwyr wrthi’n cymharu tystiolaeth y .lluniau gyda’r dystiolaeth ar y tir.
Mae’r awyrennau hyn yn debyg i awyrennau model mawr. Maen nhw’n llawer rhatach na defnyddio awyrennau a pheilot, yn fwy hyblyg i weithio ymhell o feysydd awyr ac yn llai tebygol o gael eu heffeithio gan gymylau a thywydd gwael na lloerennau ac awyrennau cyffredin.
“Mae’r canlyniadau cyntaf hyn yn addawol iawn,” meddai Alan Gay. “Byddem yn gobeithio gweld defnydd masnachol o’r dechnoleg yma o fewn dwy neu dair blynedd.”
Diwedd.
Rhagor o wybodaeth:
Emma Shipman, Publicity and Events Officer, IBERS Business Office, Aberystwyth University 01970 823002 / eos@aber.ac.uk
Arthur Dafis, Press and Public Relations, Aberystwyth University
01970 621763 / 07841 979 452 / aid@aber.ac.uk