Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig

Croeso i Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig.
Ein bwriad yw gwella iechyd a lles pobl trwy weithgareddau ymchwil, addysg ac ymgysylltu. Credwn yn Athrofa’r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig fod cadw bodau dynol yn iach ac yn fodlon yn dibynnu ar sicrhau amgylchedd iach, planhigion ac anifeiliaid iach a busnesau iach hefyd.
Ymchwil sydd yn Arwain y byd...
Mae Athrofa'r Gwyddorau Biolegol, Amgylcheddol a Gwledig ( IBERS ) yn ganolfan ymchwil a dysgu a gydnabyddir yn rhyngwladol ac sydd yn darparu sylfaen unigryw ar gyfer ymchwil mewn ymateb i heriau byd-eang megis diogelwch bwyd, bio-ynni a chynaliadwyedd, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae gwyddonwyr IBERS yn cynnal ymchwil sylfaenol, strategol a chymhwysol o genynnau a moleciwlau i organebau a'r amgylchedd.
Rhannwyd gwaith ymchwil IBERS yn ôl tair thema graidd a nifer o grwpiau ymchwil cydberthnasol: Gwyddor Cnydau a Bridio Planhigion, Galluoedd Craidd a Defnydd ac Effaith, mae'r rhain wedi'u hisrannu i'r prif themâu isod.