Lles Ariannol
Lles Ariannol
Fel aelod o staff, mae gennych fynediad at wybodaeth ac amrywiaeth o adnoddau ar les ariannol
Care First – Rhaglen cymorth i staff
Mae gan CareFirst adran ar Ganllawiau Ariannol a Gwybodaeth, sydd ar gael am ddim i bob aelod o staff.
- Canllawiau Ariannol: Gall staff siarad ag Arbenigwr Gwybodaeth CareFirst am gyngor ar gyllidebu, budd-daliadau, credyd, dyled, banciau, benthyciadau, cyfuno cyfrifon, a biliau cyfleustodau. Mae arbenigwyr ar gael o 8yb tan 8yh, o ddydd Llun i ddydd Gwener. I gael rhagor o wybodaeth, ffoniwch 0800 015 5630.
- Adnoddau Ar-lein: Trwy borth CareFirst, gall staff gael mynediad at gyfrifiannell cyllidebu rhyngweithiol, erthyglau addysgiadol, a gweminarau wedi’u recordio ymlaen llaw ar les ariannol a chyngor gan CareFirst a PayPlan.
- Cyngor ar Ddyled: Mae porth CareFirst hefyd yn darparu cyngor cyfrinachol am ddim ar ddyledion ac arweiniad wedi'i deilwra i anghenion unigol gan bartneriaid yn PayPlan.
Pensiwn
Trwy eich cyfraniadau pensiwn, mae gennych fynediad at wybodaeth, adnoddau a gweminarau i gefnogi cynllunio ariannol.
- Cynllun Pensiwn Prifysgol Aberystwyth - Gall staff ar Radd 5 ac is sy'n aelodau gael mynediad at adnoddau defnyddiol megis
- Gweminarau (yn fyw ac wedi'u recordio) -er enghraifft: 'Setting out on your pension journey (o dan 30 oed); 'Making the most of your pension' (dros 30 oed); 'Starting to plan your retirement' (mwy na 10 mlynedd i fynd nes ymddeol); 'Approaching your retirement' (llai na 10 mlynedd i fynd nes ymddeol); a mwy.
- Offer cynllunio - megis 'Cynllunydd ymddeol', a, Llyfrgell Ddogfennau
- Cynllun Pensiwn y Prifysgolion (USS) - gall staff ar Radd 6 ac uwch sy'n aelodau gael mynediad i ardal yr aelodau am amrywiaeth o adnoddau defnyddiol
- Gweminarau (yn fyw ac wedi'u recordio) -er enghraifft: 'Your USS pension basics'; 'Planning ahead for your retirement'; 'Approaching Retirement'
- Adnodd Cynllunio Ymddeoliad ac effaith digwyddiadau bywyd.
Gwasanaethau allanol eraill
MoneyHelper (darperir gan y Gwasanaeth Arian a Phensiynau) – mae’n darparu cyfarwyddyd diduedd am ddim ac yn argymell cymorth pellach y gellir ymddiried ynddo os oes ei angen arnoch. Adrannau sy'n ymdrin â budd-daliadau, teulu a gofal, cymorth gyda chostau byw a dyled, cynilo a buddsoddi, treth, a phensiynau ac ymddeoliad, morgais a phrynu tŷ, a mwy.
Cyngor ar Bopeth - Elusen genedlaethol gyda chyngor ymarferol ar ystod o feysydd gan gynnwys budd-daliadau, cyngor ar ddyledion ac arian, cyllidebu, pensiynau, a mwy.
Moneysavingexpert - Mae'n cynnig llawer o gyngor ymarferol am ddim, awgrymiadau arbed arian a chymariaethau - gan gynnwys cynllunydd cyllideb, cymorth gyda dyled, bancio ac arbedion, treth, pensiynau a chynllunio ar gyfer y dyfodol.