Cefnogaeth i Staff
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi ein cydweithwyr a darparu amrywiaeth o wasanaethau lles a chymorth i bawb sy'n gweithio i'r Brifysgol.
Adnoddau Dynol
Mae gan bob adran neu wasanaeth yn y Brifysgol ei thîm AD penodol ei hun os oes angen unrhyw gymorth neu gefnogaeth arnoch. Mae Gwefan AD yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol hefyd, gan gynnwys ymholiadau cyffredinol am wyliau blynyddol, polisïau, pensiynau, buddiannau i staff neu gyflogau.
Rhaglen Cymorth i Staff (EAP) - Cwnsela, cyngor a chefnogaeth
Mae Care First yn darparu cyngor a chymorth diduedd, cyfrinachol a rhad ac am ddim 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn, ar bob math o faterion gwaith, teuluol neu bersonol.
- Mae Care First hefyd yn trefnu gweminarau lles misol - gall staff ymuno â’r gweminarau neu wylio'r recordiad ar eu porth ar ôl y digwyddiad.
- Lles Ariannol - Mae Care First yn cynnig cyngor a gwybodaeth ariannol - gan gynnwys mynediad at gyngor arbenigol ar gyllidebu, budd-daliadau, dyled, banciau, cyfuno benthyciadau, biliau cyfleustodau ac amrywiaeth o adnoddau ar-lein.
- Mynediad am ddim i ap iechyd meddwl ardystiedig gan y GIG - My Possible Self - offer a thechnegau rhyngweithiol sy’n defnyddio therapi ymddygiad gwybyddol (CBT) i helpu i reoli eich lles meddyliol.
Iechyd Galwedigaethol
Mae’r Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol yn gallu cynorthwyo â materion iechyd sy'n effeithio ar eich gwaith, neu os yw gwaith yn effeithio ar eich iechyd - gan ddarparu gwasanaethau cyfrinachol i warchod iechyd staff, i asesu a chynghori ynglŷn ag addasrwydd i weithio, i hyfforddi ac i astudio, er mwyn sicrhau bod trafferthion iechyd yn cael eu rheoli'n effeithiol.
Undebau Llafur
Os ydych chi angen cymorth â mater sy'n gysylltiedig â chyflogaeth, mae’r undebau llafur cydnabyddedig, UCU, Unite ac UNISON yn darparu cymorth a chefnogaeth i'w haelodau.