Dyletswydd Prevent

Mae Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn nodi bod gan awdurdodau penodol ddyletswydd i atal pobl rhag cael eu denu gan derfysgaeth. Mae hyn yn golygu bod gan brifysgolion ddyletswydd statudol i ymgymryd ag agenda Prevent y llywodraeth. Yn rhan 26(1) Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 nodir bod dyletswydd ar “awdurdodau penodol” wrth gyflawni eu gweithrediadau i lawn ystyried yr amod i atal pobl rhag cael eu denu i derfysgaeth. ‘Dyletswydd Prevent’ yw’r enw sydd wedi’i roi i hyn.

Arolwg

Mae’r Llywodraeth wedi cyhoeddi dau ganllaw statudol i gynorthwyo’r dyletswydd, sydd yn nodi pa gamau y disgwylir i sefydliadau addysg uwch eu cymryd i gyd-fynd â’r dyletswydd. Mae un canllaw yn berthnasol i pob awdurdod penodol. Anelir y llall at sefydliadau addysg uwch yn benodol.

Mae ymwybyddiaeth ynghylch Prevent yn golygu dealltwriaeth o’r strategaeth ynghyd â’r cyd-destun cyfreithiol ehangach y mae disgwyl i Brifysgolion weithredu ynddo. Mae Prifysgolion yn sefydliadau agored a chanddynt rwymedigaeth cyfreithiol i hyrwyddo a galluogi rhyddid academaidd a rhyddid barn, ac mae gofyn iddynt gydbwyso amrywiaeth o gyfrifoldebau. Serch hynny, mae rhan 31 Deddf Gwrth-Derfysgaeth a Diogelwch 2015 yn nodi, wrth gyflawni’r gofyniad angenrheidiol hwn, rhaid i sefydliadau addysg uwch dalu sylw penodol i’r ddeddf ynghyd â sicrhau rhyddid barn a phwysigrwydd rhyddid academaidd.

Polisiau a Gweithdrefnau

Mae Cod Ymarferol Rhyddid i Lefaru y Brifysgol yn nodi dull y Brifysgol o weithredu’r Dyletswydd Prevent, ynghyd â deddfwriaeth berthnasol arall, megis Rhan 43 Deddf Addysg (Rhif 2) 1986, a’r ystatudau cysylltiedig. Mae Cod Ymarfer Rhyddid i Lefaru y Brifysgol i’w weld fan hyn:

Siaradwyr Allanol

Mae disgwyl i bob Sefydliad Addysg Uwch, yn rhan o’r Dyletswydd Prevent, gael polisiau a gweithdrefnau i reoli digwyddiadau a gynhelir naill ai ar eu campysau, neu ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu ar eu rhan. Oherwydd hyn, rhaid rhoi gwybod i’r Brifysgol am pob digwyddiad a drefnir gan staff a myfyrwyr lle gwahoddwyd siaradwyr allanol a ystyrir yn hysbysadwy yn unol a diffiniadau Cod Ymarfer ar Ryddid i Lefaru y Brifysgol. Trefnydd y digwyddiad ddylsai wneud hyn. Dylid llenwi’r ffurflen gais cyn gynted ag y bydd y siaradwr allanol wedi’i gadarnhau, ac o leiaf 30 diwrnod cyn dyddiad y digwyddiad. Ceir Ffurflen Hysbysu am Gyfarfod / Digwyddiad Hysbysadwy a chyngor ategol fan hyn:

 

Grŵp Diogelu

Mae’r Brifysgol wedi sefydlu Grŵp Diogelu i arwain gwaith y Brifysgol tuag at sicrhau cydymffurfiant â’r Dyletswydd Prevent. 

I gael cyngor neu gymorth pellach, gellir cysylltu ag aelodau Grŵp Diogelu ar prevent@aber.ac.uk.

Ffactorau sy’n gwneud unigolion yn Fregus

Mae Dyletswydd Prevent yn ymwneud â diogelu plant ac oedolion sydd yn fregus ac yn agored i’w dylanwadu rhag cael eu denu i derfysgaeth. Bydd hyn yn gofyn am ymwybyddiaeth o ffactorau a allai gyfrannu at fod yn fregus, sydd yn cynnwys:

  • Cael eu gwrthod gan gyfoedion, neu grŵp cymdeithasol/ ffydd, teulu
  • Pwysau gan bobl sy’n gysylltiedig ag eithafiaeth
  • Rhai a ddioddefodd neu a fu’n dystion i droseddau casineb hiliol neu grefydd
  • Gwrthdaro â theulu ynghylch credoau crefyddol/ffordd o fyw/gwleidyddiaeth
  • Dryswch ynghylch hunaniaeth
  • Tröedigaeth grefyddol ddiweddar
  • Newid mewn ymddygiad neu ymddangosiad yn sgìl dylanwadau newydd
  • Tan-gyflawni
  • Meddu ar lenyddiaeth a allai gynnwys safbwyntiau eithafol
  • Profiad o dlodi, bod dan anfantais neu gael eu gwrthod yn gymdeithasol
  • Dylanwadau eithafol
  • Nifer o ddigwyddiadau trawmatig – yn rhyngwladol, cenedlaethol neu bersonol.

Mynegi Pryderon

Gofynnir i’r holl staff fod yn wyliadwrus a chrybwyll unrhyw bryderon os ydynt yn ystyried y gallai unigolion neu grwpiau o fyfyrwyr rhag cael eu denu i derfysgaeth.

Dylid dweud wrth y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr am unrhyw bryderon sydd ganddynt, gan gynnwys unrhyw newid ymddygiad dan ddylanwad ffactorau cysylltiedig â bod yn fregus. Gellir cysylltu â hwy drwy student-support@aber.ac.uk neu ar estyniad 1761 neu 2087.

Bydd y Gwasanaethau Cymorth i Fyfyrwyr, ynghyd ag aelodau Grŵp Diogelu, yn penderfynu pa ddulliau ymyrraeth sydd yn briodol, ac fe fyddant yn wahanol ymhob achos.

Ymchwil

‌Dylai cydweithwyr sydd yn ystyried neu’n ymgymryd ag ymchwil ar destunau sensitif, a all gynnwys meusydd sydd yn gysylltiedig â’r Dyletswydd Prevent, sicrhau bod y gofynion moeseg priodol wedi’u hystyried a’u bodloni. Dylai'r fath gydweithwyr ymgynghori â Polisi a Gweithdrefn Ymchwil Sensitif y Brifysgol:

Am wybodaeth bellach a chyngor, cysylltwch gyda’r Tîm Moeseg Ymchwil ar moeseg@aber.ac.uk cyn dechrau casglu unrhyw ddata.

Hyfforddiant a Gwybodaeth Bellach

Disgwylir i bod aelod o staff gwblhau modiwl e-ddysgu Ymwybyddiaeth Dyletswydd Prevent y Brifysgol, sy’n rhoi cyflwyniad i’r Dyletswydd Prevent ac yn esbonio sut y mae’n gobeithio diogelu pobl fregus rhag cael eu radicaleiddio i gefnogi terfysgaeth neu i fod yn derfysgwyr eu hunain. Bydd y pecyn yn cymryd oddeutu 45 munud i’w gwblhau, ac yn cynnwys prawf ar y diwedd. Cewch wybodaeth bellach ynghylch yr hyfforddiant trwy ddilyn y ddolen ganlynol:

Mae adnoddau ychwanegol yn cynnwys: