Astudio drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae Prifysgol Aberystwyth yn cynnig cryn dipyn o gyfleoedd i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg - un o’r uchaf yng Nghymru.
Ein hadran ni yw un o brif ddarparwyr addysg cyfrwng Cymraeg y Brifysgol. Rydym yn cynnig cyfleoedd i fyfyrwyr sy’n rhugl yn ogystal â’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr.
Mae gennym sawl aelod staff sy'n dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd hynny, rydym yn gallu cynnig ystod diddorol o fodiwlau drwy'r Gymraeg sy'n ymwneud â Chymru, Prydain, Ewrop ac America o'r cyfnod canoloesol hyd heddiw. Rydym yn cynnig y cyfle i astudio BA Hanes V101 yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
Gellir bod yn hyblyg iawn wrth ddewis iaith yr addysgu. Ceir amrywiaeth ymhlith modiwlau'r cyrsiau israddedig a faint y gellir ei astudio drwy gyfrwng y Gymraeg. Gallwch hefyd astudio modiwlau yn Gymraeg hyd yn oed os ydych yn astudio yn Saesneg yn bennaf, ac mae gennych yr hawl i gyflwyno gwaith i'w asesu, gan gynnwys traethodau a sefyll arholiadau, yn Gymraeg hyd yn oed ble mae'r modiwlau wedi cael eu haddysgu yn Saesneg. Cewch ganfod mwy am hyn ar dudalennau ein Canolfan Gwasanaethau'r Gymraeg.
Bydd pob myfyriwr cyfrwng Cymraeg yn cael tiwtor personol sy’n medru’r Gymraeg i’w cynghori ynghylch hyn a materion eraill.
Mae llawer o fanteision i astudio'ch cwrs yn rhannol neu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg. Edrychwch ar yr ysgoloriaethau a gynigir gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a defnyddiwch eu chwilotydd cyrsiau i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau y gallwch eu hastudio'n rhannol neu'n gyfan gwbl drwy'r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae gennym ein cynllun ysgoloriaethau ein hun yn ogystal - cynllun sy'n gwobrwyo myfyrwyr sy'n dewis dilyn rhan neu'r cyfan o'u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Canfod mwy am Ysgoloriaethau Prifysgol Aberystwyth.
Ond nid arian yw'r cyfan. Wrth ddewis astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn dod yn rhan o'r gymuned Gymraeg ei hiaith, lle byddwch yn cael eich dysgu mewn grwpiau bach ac yn datblygu perthynas waith glòs gyda'ch darlithwyr a'ch cyd-fyfyrwyr. Ar yr un pryd, byddwch yn datblygu sgiliau dwyieithog a fydd o fantais i chi pan yn chwilio am waith.